Adolygiad 'Ailgylchu': Siarc Marw

Dyna chi beth ryfedd; disgwyliad. O'n i'n arfer cyfri Brigyn goda 'old faithfuls' yr SRG. Bois lyfli â chaneuon lyfli - sy' ddim yn feirniadaeth wael - ond yr hyn sy' gen i sbo, yw 'mod i erioed wedi disgwyl i Brigyn fy nghyffroi i. Yna, daeth 'Ailgylchu' drwy'r post. Albym newydd llawn tiwns ffres, gwreiddiol, a hygyrch, a lwyddodd, ar unwaith, i fy nghyffroi i'n llwyr. Dyna ddweud wrth ddisgwyliad, te! Ac mae rheswm da i gyffroi, gyfeillion. Mae gliterati sin electroneg Cymru ar y CD cyfyngedig yma; Jakokoyak, Llwybr Llaethog, Recordiau Safon Uchel a mwy. Ac mae eu dehongliadau o ganeuon Brigyn yn swynol, yn dywyll, ac yn amthemic yn eu tro. Mae'n wirioneddol anodd dewis ffefryn ar yr albym yma; mae pob cân, a'r cyfanwaith, yn gampwaith.

Mair Angharad Tomos

 

« nôl i 'adolygiadau'