Bywgraffiad

BRIGYN yw prosiect cerddorol y brodyr Ynyr ac Eurig Roberts o ardal Eryri, Gogledd Cymru.

Ers sefydlu Brigyn nol yn 2004, mae eu cerddoriaeth wedi cael ei chwarae yn gyson ar donfeddi radio, a'r teledu yma yng Nghymru ac ym Mhrydain.

Mae eu swn yn gymysgedd o gerddoriaeth werin fodern, curiadau electronig, a defnydd helaeth o samplau cerddorfaol. Mae rhai o ddylanwadau cerddorol y brodyr yn amrywio o swn electronig Bjork, i swn gwerinol Simon & Garfunkel, i gyfansoddwyr clasurol y 20 ganrif.

Mae'r cyfuniad unigryw hwn o ddylanwadau cerddorol wedi caniatau i Brigyn rannu llwyfan gydag artistiaid yn amrywio o'r tenor byd-enwog Jose Carreras i The Incredible String Band. Hyd yn hyn, maent wedi perfformio yng Ngwyl y Dyn Gwyrdd, Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, Gwyl y Cenhedloedd Bychain, Sesiwn Fawr Dolgellau, ac hefyd mewn gwyliau poblogaidd Cymraeg fel Maes B a Gwyl y Faenol.

Yn dilyn llwyddiant yr albym gyntaf yn 2004, rhyddhaodd Brigyn eu hail albym 'Brigyn2' yn ystod hydref 2005. Dilynodd teithiau llwyddiannus i San Francisco ym mis Tachwedd 2005, ac i Iwerddon yn Ebrill 2006.

Rhyddhawyd casgliad o ganeuon prin Brigyn ar 7" feinyl nifer cyfyngedig ac ar iTunes yn ystod diwedd 2006, a rhyddhawyd albym gysyniadol unigryw ('Ailgylchu') ym mis Awst 2007.

Yn ystod diwedd 2007, aeth Brigyn ar daith i 10 lleoliad o amgylch Cymru, gan gynnwys ymddangosiad yng Ngwyl Swn. Yn ogystal, nhw oedd y grwp gyntaf erioed i berfformio yn y lleoliad newydd, 'Milkwood Jam' yn Abertawe.

Rhyddhawyd eu trydydd albym llawn ('Brigyn 3') yn ystod Mai 2008, a cychwynodd y daith o hyrwyddo'r albym efo sesiwn fyw arbennig yn 'The Hub', Llundain ar gyfer rhaglen Tom Robinson ar BBC 6 Music.

Wedi taith hir drwy gweddill y flwyddyn, yn cynnwys y gwahoddiad i ddychwelyd i chwarae o flaen miloedd yn Ngwyl y Dyn Gwyrdd, rhyddhawyd y sengl 'Haleliwia' ym mis Tachwedd 2008, sef fersiwn Gymraeg arbennig o'r gân fyd-enwog (Hallelujah) gan Leonard Cohen.