 |
a.
Home
aa. I Need All
The Friends I Can Get
|
Dyma sengl ddiweddaraf Brigyn - a'u hail gynnyrch
Saesneg i gael ei ryddhau yn ystod 2010. Rhyddhawyd
y sengl 'ddwbl ochr-A' ym mis Rhagfyr, ac mae
ar gael i'w llwytho i lawr o iTunes. Yn ganeuon
tyner a thwymgalon - mae'r ddwy gân unwaith
eto'n arddangos gallu Brigyn i gyfansoddi melodïau
cofiadwy'n ddidrafferth.
Ysbrydolwyd y geiriau ar gyfer 'I Need All The
Friends I Can Get' gan lyfr o'r un enw gan Charles
M. Schulz, a roedd rhyddhau'r sengl hon yn cyd-fynd
â phenblwydd 'Peanuts' yn 60 mlwydd oed
yn ystod 2010. Mae 'Home' ar y llaw arall yn
deyrnged syml i 'Wlad y Gân', ac ysgrifennwyd
hon yn dilyn taith arall dramor yn gynharach
yn y flwyddyn - y tro hwn i Batagonia.
Mae CD (nifer cyfyngedig iawn) o'r sengl ar
gael i'w brynu yn ecsglwsif o siop ar-lein Brigyn.
Cliciwch yma i archebu
eich copi rwan!
|