Adolygiad Brigyn: Y Cymro

Casgliad o ganeuon lleddf sydd â blas gwahanol i'r hyn yr ydych wedi ei arfer glywed gan y ddau frawd Ynyr ac Eurig Roberts o'r band Epitaff.

Mae'r gerddoriaeth ei hun yn dra gwahanol i steil Epitaff, hynny yw mae'n fwy electronig. Buaswn i'n dweud mai dyma fersiwn electronig o'u gwaith blaenorol, gyda'r caneuon dwys arferol a llais cyfarwydd Ynyr, ond mewn dull electronaidd wedi ei gyfuno gydag arddull acwstic y llinynau.

Mae'n dechrau gyda thelyn effeithiol ar Os na wnei di adael nawer, sy'n swnio'n geltaidd iawn. Dwi'n syrthio i'r trap 'celtaidd' nawr, dim ond oherwydd fod yna delyn yn y gân.

Ond dwi'n credu mai dyma drac gorau'r casgliad am ei fod yn swnio'n llai cawslyd na'r gweddill. Cryfheir y darn gyda llinynnau sy'n cicio i mewn yn y gytgan.

Yn Bohemia Bach, mae Ynyr yn troi i'r Saesneg sy'n swnio'n hollol dwp. Pam? A yw'n credu mai dyma'r ffordd i swnio'n fwy cool? Ond does na'm pwynt i'r Saesneg o gwbl yma.

Mae'r organ geg yn ychwanegu at Llipryn ond credaf fod Gyrru drwy y glaw yn ddiflas iawn, oherwydd faint o weithiau mae artistiaid wedi canu am yrru drwy'r glaw o'r blaen. (signal gwan y radio... geiriau ofnadwy o ddiddychymyg).

Ceir synth gwan ar drac naw, gyda'r cynhyrchu ddim yn rhy ddrwg ond yn henffasiwn a phiano plasdig braidd. Ceir ffidlau yn Disgyn wrth dy draed a Lleisiau yn y gwynt sy'n dderbyniol iawn i'r glust.
Cerddoriaeth hawdd i'r glust, yn fras ydi'r casgliad hwn.

Dyma'r gorau hyd yn hyn o stabl Gwynfryn, ond unwaith eto, dwi'n eithaf beirniadol o gynhyrchu Bob Galvin. Mae'n amlwg mai ef yw'r ysbrydoliaeth yn stiwdio Gwynfryn ac yn cael ei ond. Credaf fod ei ddylanwadau cynhyrchiol ef yn damnio artistiaid sydd â'r talent.

Deian ap Rhisiart

 

« nôl i 'adolygiadau'