Adolygiad
Brigyn: Ffwdanu
Dyma
broject cerddorol newydd y brodyr Ynyr ac Eurig
o'r band Epitaff. Mae'r gerddoriaeth wedi gwyro
yn llwyr oddi-wrth swn acwstig Epitaff, a mae
arbrofi a thechnoleg wedi cael ei roi i greu
Brigyn.
Mae teimlad sinistr, hudolus drwy'r cyfanwaith,
a caiff hyn ei wthio ymhellach gan y riffs synth
lleddf sydd i'w clywed mewn sawl trac. Mae gitars
acwstic i'w clywed yn y sbloetsh o dechnoleg
ac arbrofi hefyd.
Cychwyna'r project gyda prif gân y CD
yn fy marn i, 'Os na wnei di adael nawr'. Mae
sampls telyn a llinynau wedi cael eu adeiladu
mewn i'r gân, sy'n adeiladu at uchafbwyntiau
hollol styning a gafaelgar. Mae'r gân
a'i geiriau yn nodweddiadol o'r emosiwn cryf
sy'n rhan o'r gerddoriaeth, a sy'n llifo'n ddi-stop
gyda chymorth y rhythmau peirianol sydd mor
wahanol i unrhyw beth 'dw i wedi ei glywed o'r
blaen. Pe bai'r rhythm yn cael ei ddyblu, mi
wnai gerddoriaeth dawns gwych, er bod llawer
mwy o sylwedd iddo fo 'na hynny!
Mae steil trip-hop arbrofol i rhan fwya o'r
gerddoriaeth, ond daw ambell gân ac adlais
Epitaff yn ôl gyda chaneuon mwy acwstic
di-rhythm sy'n gwneud defnydd o biano a'r gitar,
ac wrth gwrs mae llais hudolus Ynyr yn rhoi
cymaint i'r caneuon - ma jyst yn wych. Mae'r
caneuon cyferbyniol heb ganu o gwbwl, ac yn
debyg i jamio technegol sy'n adeiladu rhythmau
ar ben eu gilydd am hir.
Mae cyffyrddiadau Indiaidd gwahanol i'w clywed
yma, sy'n dangos pa mor arbofol ydi'r project
Brigyn. Mae harmoni dal i gymeryd lle blaengar
yn y gerddoriaeth, yn enwedig yn nghân
'Llipryn' sy'n cael ei chanu gan Eurig, a mae'r
miwisg jyst mor neis ellwch chi'm peidio licio
fo!
Mae symylder y geiria yn effeithiol, a dim fel
y dywed beirniadaeth yn y Cymro yn ddi-ddychymyg.
Ma'r cyfanwaith yn gampwaith ac yn haeddu lot
o sylw, da iawn!
«
nôl i 'adolygiadau'
|
|