Adolygiad
Brigyn: Yr Herald
Casgliad
difyr er gwaetha'r ofnau am y gair 'electroneg'.
Wrth wrando ar y gân gyntaf ar CD newydd
Brigyn, fy ymateb oedd 'O, na!"
Ond wnaeth y siom ddim para'n hir. Tua 10 eiliad
a bod yn fanwl gywir, oherwydd dyna hyd y gân,
os cân hefyd. Byddai "swn rhyfedd,
sy'n golygu fawr ddim i neb" yn nes ati,
mi fentraf.
Mae'n gas gen i'r synau electroneg 'ma sy'n
honni bod yn gerddoriaeth. A doeddwn i ddim
yn rhy ffyddiog am weddill y CD hon, ar ôl
darllen y datganiad oedd gyda hi.
"Symudiad newydd y brodyr Ynyr ac Eurig
or grwp Epitaff... blas gwahannol... cymysgedd
o ganeuon electroneg ac acwstic..."
Ac yna, mae Ynyr yn sôn am y broses recordio
lle mae o wedi defyddio'i gitar "i wneud
swn yn hytrach nag offeryn i gynnal cân."
Ar ben hynny, recordiwyd nifer or traciau ar
gyfrifiadur yn eu cartref.
"O na, mae'n mynd i fod yn llawn synau
od, a 'cherddoriaeth arbrofol meddyliais.' Ond
wedi'r agoriad, fe wellhaodd pethau yn sylweddol
iawn hefyd.
Mae'r ail gân Os na wnei di adael nawr
yn grêt. A peidiwch â phoeni'n ormodol
am y gair electroneg 'na, os ydych chi fel finna
ddim yn or-hoff or fath beth. Oherwydd dydio
ddim mor ddrwg a hynny. Nid cerddoriaeth electroneg
yn yr ystyr 'draddodiadol' mohono o bell fordd.
Nid synnau aflafar, od, ond yn hytrach cefndir
a chyffyrddiadau cynnil sy'n ychwanegu at y
caneuon yn amach na pheidio. Iawn, mae na un
neu ddwy yn swnio ychydig yn yn ganol-y-ffordd.
I grynhoi, credaf fod Brigyn yn llwyddo fel
cyfanwaith. Mae 'na ambell i gân dda iawn,
ac mae'r traciau offerynnol yn gret. Aeddfed
a chreadigol.
Oce, mae 'na un neu ddwy o ganeuon sy'n ymylu
ar fod yn ganol-y-ffordd, ond fel mae'r hogiau
yn eu disgrifio - caneuon hawdd ar y glust ydyn
nhw, a beth sydd o'i le ar hynna?
Ar y cyfan casgliad difyr, caneuon da, lleisiau
gwych, a darnau offerynnol diddorol, sy'n dangos
ochr arall i dalent yr hogiau o Lanrug.
«
nôl i 'adolygiadau'
|
|