Cyfweliad Brigyn: Y Selar

Aeth y Selar i fwydro 'fo Brigyn dros beint. Gydag albwm newydd allan yn yr hydref a’r 1af wedi ei dderbyn yn wresog o Fôn i Fynwy, sut oedd y byd a’i bethau i Ynyr ac Eurig?

Mae Brigyn yn newid arddull i raddau amlwg o gynnyrch Epitaff. Oedd y miwsig ‘chill-out’ yn rywbeth oedda ti ac Eurig wedi bod yn greu ers amser?


YR: Mae'r syniad o wneud rhyw albwm 'electronic' a tawel, wedi bod yn pigo fy meddwl ers blynyddoedd, ond ddaru fi rioed feddwl y bysa ni'n cyflawni be da ni wedi ei wneud. Damwain lwcus ydi Brigyn a deud gwir. Roeddwn yn recordio'r caneuon yma ar y syniad y bysa nhw yn gwneud demos iawn. Ond roedd y cynnyrch gorffenedig yn swnio’n dderbynniol, felly penderfynom ei ryddhau.

ER: Dwi wastad di bod yn chwara o gwmpas efo offerynnau gwahanol sy gena ni adra, ond dim ond pan ddaru ni benderfynnu arbrofi fel Brigyn gafodd hyn ei gyflwyno ar CD gynta. Dwi'n meddwl odd yr amsar i gychwyn Brigyn yn iawn pan ddaru ni neud o. Roedda ni isio gneud rwbath oedd efo swn gwahanol i be natho ni cynt efo Epitaff.

Ydi Epitaff yn bodoli o hyd?

ER: Yndi wir, er bo ni ddim yn perfformio efo'n gilydd mor aml dyddia yma. Mae'n anodd cael pawb at eu gilydd - gan fod y rhan fwyaf ohona ni mewn jobs, ond ma na son bod ni'n gobeithio recordio rhywbeth cyn bo hir - a trio rhyddhau rwbath dros yr ha' - gan fod yr Eisteddfod yn dod i'r gogledd eto.

YR: Ia, da ni'n gallu cael y gorau o'r ddau fyd ar y funud. Da ni yn dal i wneud y 'guitar rock' gyda Epitaff, ac yn gallu gwneud gigs ac cael ein gweld mewn llefydd gwahannol gyda Brigyn.

Wyt ti'n bles hefo'r ymateb i'r albwm newydd?

YR: Dros ben. Mewn gwirionedd fe allai o wedi bod yn fflop, gan nad oedd na build-up/hype na ddim byd i gefnogi'r CD. Ddaru ni just gadael y gerddoriaeth siarad dros ei hun - a gweld be fysa'n digwydd.

ER: Ma'r ymateb di bod yn phenomenal hyd yn hyn - yn well nag oedda ni'n disgwl, a mae na lot o bobl sydd jyst yn dod i wbod am Brigyn wan hefyd drwy ein gigs byw - sy'n gret.

Ydych chi'n cael mwy o gigs fel Brigyn nac oedd Epitaff fel grwp?

YR: Mae hi'n eitha sefydlog. Tua'r un faint o bobl yn gofyn am y ddau...

ER: Mae o i gyd yn dibynnu ar be sgen ti i hyrwyddo, amwn i. Mae 'na dipyn o alw di bod am Brigyn – sy’n dda, gan fod ganddon ni albym i'w hyrwyddo. A dweud y gwir, da ni'n eitha synnu fod na alw amdano fo yn fyw - achos dydi'r stwff yma ddim mor fywiog ag Epitaff, a fysa chdi ddim yn meddwl fysa fo'n mynd lawr yn dda efo cynulleidfa mewn gigs - ond ma'r ymateb di bod yn dda pan da ni'n neud o'n fyw hefyd.

Ydi hyn oherwydd y newid yn steil y caneuon ynteu a oes mwy o gigs yn digwydd yn gyffredinol?

YR: Hyd yn hyn mae Brigyn wedi bod yn gwneud gigs mewn llefydd bach, ac wedi gweithio yn dda, gan fod yna gymaint o gigs iw cael mewn tafarndai a nosweithiau lle nad yw'r trefnwyr eisiau band cyfan a swn mawr. Dwi'n gweld Brigyn yn cael llawer mwy o gigs yn y dyfodol, gan fod lot o gigs mewn tafarndai a clybiau bach dyddia yma. Dwi'n meddwl fod y sin Cerddoriaeth Gymraeg yn ofnadwy o gyffrous a iach.

Roedd ymateb y cyhoedd yn dda i gigs byw Epitaff. Oedda chi'n teimlo fod sylw teilwng a theg wedi ei roi i'r grwp gan y cyfryngau a threfnwyr?

ER: Da ni'n falch iawn o'r llwyddiant da ni wedi ei gael efo Epitaff - a ma hynny di bod lawr i'r gefnogaeth gafo ni gen y cyhoedd, y cyfryngau, ein label a trefnwyr gigs. Ond, ma Brigyn wedi rhoi cyfla i ni fynd a'n cerddoriaeth at gynulleidfa newydd - a galluogi ni i agor drysau newydd - rhai oedda ni'n teimlo oedd ar gau i Epitaff. Ddaru ni rioed cael cynnig gig fel Epitaff yng Nghaerdydd - ond da ni wedi chwara yno dipyn o weithiau ers i Brigyn fodoli.

 

« nôl i 'adolygiadau'