Adolygiad Brigyn 2: C2

Yn ymuno a Huw Stephens y noson honno oedd Steffan Cravos a Marc Real.

HS: Felly, Marc, efo pob parch at dy dast gerddorol di, oni ddim yn disgwl gweld aelod o Ashokan yn mwynhau albym gen Brigyn. Ond mi nes di...

MR: Do, do. Ges i sioc fach i fod yn onest. 'Di e ddim yn fath o gerddoriaeth y byswn i'n disgwyl ei fwynhau, ond natho ni wrando arna fe, a ma na lot o bethe da ynddo fe ... ac ar ol gweld nw yn fyw, odd hwn lot, lot, lot yn well, achos oni'n disgwyl rywbeth yn debyg i be ma nw'n neud yn fyw. Ond ma gen nw lot o bethe sydd gena nw ddim yn y gigs byw, so ges i fy mhlesio i fod yn onest.

HS: Pan mae nhw'n fyw, mae nhw yn dueddol i fod yn acwstic yn dydi - heb y 'beats' a'r curiade caled 'na, felly, mae'n amlwg fo nw wedi cael hwyl yn y stiwdio. Ti di gweld nw yn chware yn fyw o gwbwl Steffan?

SC: Na, dwi ddim actually, na.

HS: Dwim yn meddwl bo fi wedi i fod yn onest. Ond mae'r albym yma - fyse ti yn cytuno â fi fod y cynhyrchu yn dda dros ben?

SC: Mae'r cynhyrchu yn dda iawn. Mae'r sain yn glir. Be ma nhw'n neud yw cerddoriaeth draddodiadol mewn ffordd, ond fo' 'na haen electroneg ar ei ben e. Ond o ran y cynhyrchu, yn sicr, mae e yn safonol.

HS: Achos gall y caneuon fod yn rhei eitha 'Boombastic', a 'Stadium Rock' i ryw radde, yn galle', ond dydi nw ddim - gan eu bod nw'n dod a elfennau o sdwff mwy modern i fewn - y curiade 'na, ac yn ychwannegu. Wyt ti'n meddwl fod o'n gweithio yn dda Marc - y lleisie hyfryd ma, yn canu'r geirie hyfryd ma, gyda 'beats'?

MR: Ie, mae e'n dod drosodd yn eitha da. Ma fe'n swnio'n debyg i fi fel David Gray o ran y llais. Mae'r gerddoriaeth - mae na elfen glasurol, traddodiadol, a gyda'r elfen electronica ma, mae e'n gyfoes - sy'n gweithio, a mae e'n dda.

HS: Achos mae'r ddau frawd, mae nw dal hefyd yn y grwp Epitaff sy'n dal i fodoli - a ma nw yn neud sdwff mwy traddodiadol. Felly, sgen ti uchafbwyntiau oddi ar yr albym ma Steffan, o ran traciau sy'n sefyll allan?

SC: Dwi di colli'r CD, ond dwi'n eitha licio'r 'inserts' rhwng y tracie, lle mae gen nhw ddarnau byr llai na 30 eiliad rhwng y caneuon, a mae nhw'n eitha neis i'w clywed ar albyms cymraeg.

HS: Mae'n helpu'r albym lifo yn dydi, o drac i drac?

SC: Ydi. Dwi'n meddwl fod o eitha traddodiadol dal o ran be ma nw'n trio ei wneud, a dio ddim fel tase fe'n trio torri tir newydd. Dyw e ddim yn rywbeth dwi wedi ei glywed o'r blaen, ond eto i gyd, mae o'n wrandawiad eitha pleserus.

HS: Mae nhw'n neud be mae nhw'n neud yn dda iawn.

SC: Yndyn.

HS: Mae e'n fath o albym sy'n tynnu chi mewn yn tydi. Ti'n dechre, a ti'n meddwl 'Reit', - dwi'n siarad yn bersonol yn fan hyn - 'Dwi ddim yn teimlo'n gyffyrddus efo hyn' ... A mae'r run peth am yr albym cynta hefyd, sy'n tynnu chi fewn yn ara' deg, ara' deg... ac erbyn i chi ... erbyn i'r albym orffen, mi fydde chi wedi mwynhau gwrando ar yr holl beth.

MR: Yn hollol. Ges i'n siomi ar yr ochr ora. Mae e'n dechre off, ac oni'n disgwl rhywbeth 'drab', araf, jyst acwstic arferol. Ond na, ma fe'n rywbeth pleserus i'w wrando arno. Nes i olchi'r llestri un diwrnod a gwrando arno fe.

HS: Wel, dyne ni! Bydd hune ar posters albym nesa Brigyn yn bydd! - 'Fuodd Marc Real yn golchi llestri i'r albym ddwytha'!

MR: Oni'n meddwl fyse teitl mwy gwreiddiol ar gyfer yr albym wedi bod yn well!!! Rhyw fath o ddwyn wedi mynd ymlaen yn fane!

SC: Pot Black!

HS: Mi nath rywun bwyntio hune allan i fi diwrnod o'r blaen - Ail albym Ashokan : Ashokan2, ac enw ail albym Brigyn oedd Brigyn2. Ti'n meddwl mae Brigyn3 fydd yr un nesa... ac Ashokan3 hefyd?

MR: Na - ni am ddilyn y ffordd fel Naked Gun - '2 and a half' sy nesa.

HS: Ok. Gobeithio fod Brigyn ddim yn gwrando, achos bosib dyna be fydde nw yn galw yr albym nesa hefyd! Felly, Steff, sy feddylie di i gloi ar yr albym 'ma gen Brigyn. I bwy fyse ti'n argymell yr albym yma?

SC: I pwy?

HS: Ie, pa fath o ... Lle fyse ti'n gosod yr albym yma?... Achos dwi'n teimlo ei fod o'n albym anodd i'w osod - Dyw e ddim yn draddodiadol, dyw e ddim yn ganol y ffordd, a fel ti'n deud dyw e ddim yn torri tir newydd chwaith.

SC: Dyw e ddim yn 'cuttin edge' o bell ffordd, ond mae e'n albym bleserus iawn i wrando arno, sy'n mynd i apelio at trwch o boblogaeth. Mae o'n rywbeth hawdd i wrando arno fo.

HS: OK. Marciau allan o ddeg ar gyfer Brigyn2?

SC: Chwech.

MR: Fyswn i'n rhoi chwech hefyd. Gwaith da fechgyn!

HS: Gwych. Disgwyl ymlaen i weld y quote yna ar y poster nawr!


Marciau:

Steffan Cravos: 6/10
Marc Real: 6/10

 

« nôl i 'adolygiadau'