Adolygiad Brigyn2: Barn - 'Caws neu naws'

CATRIN DAFYDD sy'n trafod y band poblogaidd Brigyn, band sy'n datblygu genre newydd o gerddoriaeth yn y sin Gymraeg.

Pur anaml yng Nghymru mae band gweddol gyffredin yn adfywio, yn cael gwared ar aelodau ac yn poblogeiddio. Dyna sydd wedi digwydd yn achos y band Brigyn. Dau frawd, Ynyr ac Eurig, yw aelodau Brigyn ond roedden nhw ac eraill yn aelodau o'r band hynod gyffredin ac ychydig yn 'depressing', Epitaff. Roedd Jonsi'n eu chwarae nhw lot gormod. Beth bynnag, mae'r enw’n dweud y cyfan.

Ond, o'r gwaith coed, wedi cyfnod o dawelwch daeth Brigyn. Bu'r bechgyn yn ffodus iawn i gael eu mabwysiadu gan Radio Cymru a'u hyrwyddo fel gobaith mawr y ganrif. Yn sydyn, roedden nhw'n perfformio mewn cyngherddau 'glossy' radio gyda Meinir Gwilym a'i thebyg. Yn yr ystyr hynny, maen' nhw wedi hod yn lwcus, gyda nifer yn y sin roc yn ei weld e'n gyfleus iawn eu bod nhw wedi cael cynnig y cyngherddau mawrion ym mhafiliwn Corwen ac ati, ac ati. Yn y pen draw, dim ond gwneud eu 'job' nhw'n anos wnaeth y gefnogaeth gan Radio Cymru, am y bu'n rhaid i Brigyn brofi eu bod nhw'n ddigon da i haeddu'r holl heip.

Buan iawn y pasiwyd y prawf gyda degau o bobl yn danfon negeseuon testun i raglen Owain a Dylan yn gofyn am ganeuon Brigyn bob dydd. Roedden nhw wedi llwyddo i apelio at wrandawyr Radio Cymru, wedi llwyddo ymhell cyn hynny i dicio blwch cynhyrchwyr yr orsaf ac roedden nhw hefyd - och a gwae - yn fechgyn neis!

Ac er gwaetha'r stori gawslyd a arweiniodd at eu llwyddiant, mae Brigyn yn fand sy'n esblygu'n gerddorol o albwm i albwm. Gyda lansiad eu hail gryno-ddisg, Brigyn 2, mae'r brodyr wedi penderfynu canolbwyntio'n fwy ar gynhyrchiad y gwaith, gan gyfansoddi cerddoriaeth offerynnol yn ogystal a chaneuon lleisiol. Fe lansion nhw Brigyn 2 mewn coeden yn Llanymddyfri ac maen' nhw wrthi'n chwarae yn San Ffransisco wrth i mi deipio. Maen' nhw'n fand sydd ar dan o ran syniadau cynhyrchu, hyrwyddo, marchnata a chyfansoddi ar hyn o bryd.

O wrando ar eu cerddoriaeth offerynnol a lleisiol, mae'n ymddangos yn gwbl amlwg bod y band wedi eu dylanwadu gan fandiau fel Royksopp. Mae caneuon oddi ar eu halbwm cynta' hefyd yn ymdebygu i'r arddull hon. Y caneuon mwyaf trawiadol ar yr albwm cyntaf hwnnw yw'r caneuon offerynnol, 'Sonar' ac 'Abacus'. Mae'r caneuon hyn yn ymdebygu i arddull Brian Eno o Roxy Music gynt, y gwr a ddyfeisiodd y genre 'ambient music'. Mae'n wir i ddweud bod ambell wleidydd yng Nghymru wedi son y byddai cerddoriaeth Brigyn yn wych fel cerddoriaeth gefndirol mewn cynadleddau. Byddai'r gerddoriaeth yn gallu dylanwadu ar naws digwyddiad heb yn wybod bron iawn i'r gynulleidfa. Cerddoriaeth 'ambient' yw cerddoriaeth o'r fath. Fe'i galwyd gan Brian Eno ei hun yn 'gerddoriaeth a fyddai'n gorchuddio'r gwrandawr heb dynnu sylw ato'i hun'. Mae hyn yn gweddu i'r dim fel disgrifiad o gerddoriaeth offerynnol Brigyn.

Wrth gwrs, wedi dweud hynny, mae nifer o hits gweddol gawslyd ac alawon sy'n cydio ar ddau albwm Brigyn hefyd. Caneuon fel 'Lleisiau yn y gwynt' sydd wedi ei chwarae hyd syrffed ar Radio Cymru. Ceir deuawd lleisiol hudol ar yr ail albwm. Fflur Dafydd yw'r gantores wadd, ac mae hi'n canu 'Hwyl Fawr, ffarwel' gydag Ynyr. Can sy'n ymdebygu i arddull caneuon Meic Stevens. Can neith i chi grio, falle.

Nid sarhad ar gerddoriaeth 'Brigyn' yw cymharu eu caneuon a'r genre 'ambient music'. Nid cerddoriaeth ddiflas yw 'ambient music' o anghenraid er y gall rhai agweddau ohoni fod yn ddiflas wrth reswm. Mae'r grefft o gyfansoddi cerddoriaeth sy'n cogio nad yw yno, ond sy'n treiddio i dy ben, yn grefft unigryw. Wrth gwrs, mae'r offer cyfrifiadurol diweddara' yn gymorth wrth greu naws ond mae'n rhaid gosod y gwaith a'i blethu heb or-wneud hynny. Yn fwy na hyn, dydy'r ffaith fod y gerddoriaeth yn gallu cael ei hanwybyddu ddim yn meddwl na fedr gwrandawr wrando a chanolbwyntio arni hefyd.
Byddai'n ddiddorol iawn clywed albym cyfan o gerddoriaeth sy'n dilyn y genre 'ambient'. Oblegid, ar hyn o bryd, mae Brigyn ar groesffordd. Pe baen' nhw'n dewis parhau i gyfansoddi yn genre cerddoriaeth 'ambient' a cherddoriaeth electronig fe fydden nhw'n perthyn draddodiad diddorol.

Ymhlith albyms mwyaf dylanwadol Brian Eno roedd Another Green World (1975) ac Anibient 1/Music for Airports (1978). Cerddoriaeth oedd yn haniaethol, yn torri tir newydd ac yn herio'r drefn gerddorol arferol. Gweithiodd am flynyddoedd gyda chydweithwyr oedd o'r un brethyn ag e. Pobl fel Harold Budd a Robert Fripp. Er i gerddoriaeth 'ambient' gael ei chysylltu mewn un ystyr gydag 'elevator music' a gyda 'Muzak' gellir ei chyffelybu yn llawer tecach â cherddoriaeth a allai greu naws, a allai godi hwyl a rheoli tymer. Nid yw'n annhebyg i gerddoriaeth neu drac sain i ffilm.

Nid sarhad oedd disgrifio darnau cerddorol yn toddi i'r cefndir i Eno ond arwydd o lwyddiant. Codwyd nifer o gwestiynau diddorol o ganlyniad i'r safbwynt hwn. Pam fod yn rhaid i gerddoriaeth dda dynnu sylw ati'i hun beth bynnag? Oes raid i bopeth sy'n dda apelio at yr hunan ymwybodol? Yn fwy na hyn, pan greuwyd cerddoriaeth electronig gyda syntheseisers fel hyn am y tro cyntaf, doedd Eno ddim am honni ei fod yn torri tir newydd. Yn ei farn ef, dim ond ailgydio mewn genre o gerddoriaeth oedd e. Genre oedd wedi bodoli ers peth amser.

Yn ôl Eno, roedd yn dilyn y cyfansoddwr clasurol Satie ac eraill, cerddoriaeth enwog o'r ugeinfed ganrif a darnau fel yn 'Gymnopedies' yn arbennig. Yn ôl Eno, mae yna doreth o ddarnau clasurol tebyg nad ydynt yn ymhonnus nac yn denu sylw. Darnau sy'n creu naws mewn ffordd breifat, darnau cerddorol sy'n apelio at yr isymwybod, at y glust fewnol. Cerddoriaeth nad yw'n tarfu ar fywyd bob dydd ond sy'n mwynhau profiadau. Wrth wrando ar gerddoriaeth Mozart, ac astudio ei effaith ar ddisgyblion sy'n cam fihafio yn yr ysgol, gellir deall sut y gall cerddoriaeth gad effaith gadarnhaol.

O chwarae cerddoriaeth Mozart yn dawel yn yr ystafell ddosbarth mae pobl yn tawelu er nad ydynt o anghenraid yn ymwybodol o'r gerddoriaeth. Mae modd gwrando ar gerddoriaeth offerynnol Brigyn yn yr un modd. Mae elfennau o gerddoriaeth Brigyn yn dilyn traddodiad Erik Satie a Mozart felly.

Mae'n debyg mai'r her i Brigyn nawr yw dewis pa drywydd yw'r gorau ganddyn nhw. Parhau i gyfansoddi hits cerddorol sy'n addas ar gyfer y radio ynteu arbrofi ac esblygu eu talent i greu cerddoriaeth 'ambient'. Byddan nhw'n cael llawer mwy o sylw wrth gyfansoddi caneuon cawslyd at ddefnydd radio. Bydd yn ddiddorol iawn clywed y trydydd albwm. O siarad â brodyr Brigyn, mae'n gwbl amlwg eu bod nhw'n awyddus i arbrofi a marchnata mewn ffyrdd gwreiddiol. Gobeithio nad y marchnata a'r hyrwyddo yn unig fydd yn esblygu erbyn dyfodiad yr albwm nesaf.

Catrin Dafydd, Barn Rhagfyr/Ionawr 2005/6

 

« nôl i 'adolygiadau'