Adolygiad Brigyn 2: Eco'r Wyddfa

O gychwyn y gân gynta ar yr albym newydd ma’ ‘na deimlad o greu disgwyliad. Alaw leddf ryfedd gan weu offeryne ar ben ‘i gilydd un ar ôl un. Teimlad glân heb unrhyw rwysg sydd gan y caneuon newydd i gyd. Caneuon offerynnol a chaneuon wedi eu cynhyrchu a’u gosod yn gynnil. Does dim syndod ‘u bod nhw’n boblogaidd. Tybed sut y bydd y cefnogwyr ffyddlon yn teimlo am y swn sydd ychydig yn newydd? Wel, dechre da, achos ma’r clawr yn ffab.

Mae ‘Diwrnod Farchnad’ yn rw fath o anthem y gall pobl sy’n gweithio mewn marchnadoedd yng Nghymru fabwysiadu! Ac er gwaetha’r ffaith nad ydw i’n gweithio mewn marchnad, ma’r gân yn sownd yn fy mhen. Er nad ydw i bob tro am ei chlywed hi yn fy mhen…

Mae’r alawon cefndir, y cyfalawon a’r gwau i gyd yn ddestlus ac yn llwyddo i reoli dy fwd di. Yn dy dynnu di o’r byd gwallgo a llais Ynnyr yn dy suo i fyd y ddau frigyn o Lanrug. Weithiau, mae’n anodd gwybod os yw’r albym yn ceisio bod yn gasgliad o ganeuon ynteu’n ymgais i fod yn fwy fel royksopp a’u tebyg. Efallai mai’r hyn sy’n gweithio yw’r ffaith fod y bois yn defnyddio’r dull hyn o greu cerddoriaeth ond yn dal yn driw i’w alawon a’u caneuon.

Hits yr albym heb os yw ‘Y Sgwâr’, ‘Diwrnod Marchnad’ a ‘Darn o’r un Brethyn’ ond i fi, ma’ ‘Hwyl fawr, ffarwel’ gyda deuawd Ynnyr a Fflur Dafydd yn ddarn lysh o gerddoriaeth gynnil a meddal fel cot cwningen. Ma’ ‘na ryw adlais o ganeuon tawel Meic Stevens a Heather Jones yn ‘Hwyl fawr, ffarwel.’ Ac mae ‘Imago’ hefyd yn cydio, er nad yw cyn gryfed ar gychwyn y gân ac er iddo hefyd orffen fel cân sioe gerdd.

Mae ‘Darn o’r un brethyn’ yn driw i’r gân a’r geiriau gyda riff y gitâr yn ail-ware dro ar ôl tro. Ond diawl, ma’ na rywbeth yffachol o angerddol a waw ynglyn â’r gân. Mae’r adeiladweth offerynnol yn helpu a ma’ pawb sy’n profi’r teimlad o ‘unrequited lyf’ ar hyn o bryd yn mynd i lico’r gân hyn a’i lico hi lot! Ac yn fwy na hyn, ma’ llais Ynyr yn ffitio i’r dim da’r gân.

Beth sy’n ddiddorol am ddatblygiad Brigyn yw ei fod e’n ddatblygiad hylifol. Dydyn nhw’n amlwg ddim yn hoffi sticio at un math o gerddoriaeth yn rhy hir. Mae esblygu a datblygu syniadau yn rhan greiddiol o’u bodolaeth nhw ac mae hynny’n hwyl i wrando arno. Ar ben hyn, mae rhai darnau cerddoriaeth sydd wedi eu creu (er enghraifft ar gychwyn Bysedd drwy dy wallt) yn ddarn o siocled i’r glust. Wrth gwrs, mae perygl cwympo i drap a chael dy reoli gan opsiynau cerddoriaeth technolegol sy’n cael ei greu ar gyfrifiadur. Mae Brigyn wedi llwyddo ei ddefnyddio’n dda ond mae’n gyffrous meddwl pa arbrofi arall gallan nhw wneud mewn albyms yn y dyfodol.

Mae’n anhebygol y byddai unrhyw frigyn arall yn gallu creu swn mor soniarus. Ma’ nw fel arfer yn frown, yn gam ac yn go dawel ond ma’r Brigyn arbennig hyn wedi creu albym arbrofol ond gofalus. Nawr, faint o frigau all ddweud eu bod nhw wedi gwneud hynny?

Catrin Dafydd

 

« nôl i 'adolygiadau'