Adolygiad Brigyn 2: Y Selar

Mae Brigyn yn cyfansoddi caneuon gydag elfennau gwerinol ac organig. Ar ôl rhyddhau eu halbym gyntaf fel Brigyn blwyddyn yn ôl, dyma Brigyn 2, sydd yn dangos cam ymlaen anferthol o'i halbym gyntaf.

Mae'r albym yn cynnwys caneuon aeddfed, cyfrwys a chymleth, ond syml ar y glust. Mae'n gasgliad arbrofol sy'n hudolus a phroffesiynol. Mae'r ddau frawd Ynyr ac Eurig yn dangos eu dawn gerddorol a'u gallu i gyfansoddi wrth iddynt gymysgu elfennau electronica, gwerin a defnydd helaeth o samplau cerddorfaol sy'n mesmereiddio'r gwrandawyr.

Cawn naws hamddenol a chynnes drwy'r albym gydag ambell i drac yn sefyll allan. Un o fy ffefrynnau yw'r trac 'Hwyl Fawr, Ffarwel' sy'n llawn harmonïau arallfydol gyda naws Affricanaidd. Mae 'Diwrnod Marchnad' yn ffefryn arall gyda thôn swynol a chofiadwy ag ymdeimlad hiraethus.

Mae Brigyn 2 yn plesio, a theimlaf nad yw'r band wedi derbyn y clod dyledus. Mae'r ansawdd yn uchel gyda'r cydbwysedd cywir rhwng y sain ac offerynnau organig ac electroneg. Mae'r albym yn llifo'n ddiymdrech a chyn pen dim, mae angen gwasgu 'play' eto.

Lynsey Anne

 

« nôl i 'adolygiadau'