TafOd: 'Agor drysau newydd...'

Yn ôl Ynyr Roberts, mae dechrau'r grwp Brigyn 'wedi agor drysau newydd' iddo ef a'i gyd aelod, Eurig.

Bu'r ddau frawd o Lanberis yn aelodau o'r grwp poblogaidd Epitaff am saith mlynedd. Yn ôl Ynyr, symudodd y grwp 'o underground i'r mainstream' erbyn y diwedd, ac oherwydd hyn a newid yn sefyllfaoedd yr aelodau, penderfynodd y ddau fwrw ymlaen â menter newydd.

Doedd Epitaff erioed wedi chwarae mewn gig yng Nghaerdydd yn ystod y saith mlynedd. Ond mae Ynyr ac Eurig Roberts wrth eu bodd gyda'r ymateb maen nhw wedi ei dderbyn yn y brifddinas erbyn hyn, ac mae Brigyn wedi cael nifer o gyfleon i chwarae mewn pob math o achlysuron, ledled Cymru.

'Ti'n goro' gigio trwy'r flwyddyn,' meddai Ynyr, y brawd mawr. 'Mae'n ffordd o gael dilynwyr'.
Bu'r ddau yn chwarae mewn nifer o wyliau dros yr haf, gan gynnwys Sesiwn Fawr Dolgellau, a'r mis diwethaf fe chwaraeon nhw set acwstig yng Nghlwb Ifor Bach. Yn ôl Eurig, 'mae'r ddau mor bwysig â'i gilydd.'

Mae'r ddau yn amlwg wedi llwyddo i ennyn trawsdoriad eang o ddilynwyr, yr unig fand i gael cân ar raglen Dylan a Meinir, Jonsi a Huw Stephens! Felly cerddoriaeth at ddant pawb, a fis Hydref dechreuon nhw daith i hyrwyddo'r albwm ddiwedd y mis.

Yn ôl y brodyr, mae'r albwm yn debycach i'r hyn roedden nhw'n gwrando arno ar adeg ei recordio, sef pobl megis Björk a Lemon Jelly. Cyfuniad sy'n amlwg wrth fodd y gynulleidfa, gan fod yr albwm wedi cyrraedd rhif 4 yn siart C2 yn barod.

'Mae'n step ymlaen o'r 'Brigyn cyntaf', meddai Ynyr, yn adlewyrchu datblygiad y grwp dros y flwyddyn ddiwethaf, ac ers dyddiau Epitaff.
Ar hyn o bryd mae'r ddau ar eu ffordd i San Francisco am bythefnos, yn ymateb i wahoddiad gan Gymdeithas Gymraeg y dalaith i wneud ambell gig. Ond bydd cyfle i'w gweld yn chwarae ar ôl iddyn nhw ddychwelyd i Gymru, ac mae'r albwm, 'Brigyn 2' allan nawr os na allwch aros tan hynny i'w clywed.

Lois Dafydd, Tachwedd 2005

 

« nôl i 'adolygiadau'