Adolygiad
Brigyn 3: Y Selar
BRIGYN
BRIGYN 3
GWYNFRYN CYMUNEDOL
Mae
rhai yn eu galw’n Proclaimers Cymru. Mae
Brigyn yn frodyr hefyd gwelwch. Mae’r
rhai yna yn ffyliaid diglem, dibwrpas, a heb
eithriad yn gwmni diflas. Oherwydd nid pedlars
tri chord mo Brigyn o bell ffordd, ac yma daw
albwm o safon, eu 3ydd fe synnwch wrth y teitl,
i ramio’r pwynt am 500 milltir a 500 milltir
arall heb ddisgyn wrth ryw fflipin drws.
Mae’n gryf drwyddo, yn llawn awyrgylch
dwys-hamddenol os di hynny’n gyfuniad
o unrhyw synnwyr. A mae’r hyn sy’n
amlwg ers hydoedd yn amlygu ei hun yn finiog
yma, sef fod Ynyr ymysg y lleiswyr gorau o gwmpas.
Ei gysondeb drwy’r ystod o ganeuon yma’n
ei wneud, ar ben strwythurau hyfryd fel sydd
ar Fyswn i ... fysa ti?, Wedi’r Cyfan
a Seren, yn gwneud yr holl albwm yn brofiad
pleserus tu hwnt. Does na’m pwynt gwan
a dweud y gwir. Ella fod y delyn ar Subbuteo
yn ddiangen, ychydig yn annifyr hyd yn oed,
ond pigo beiau pedantig yw hynny a chwilio am
drwbwl lle does dim. Brigyn 3 yw eu pinacl hyd
yn hyn, ond ar y dystiolaeth yma dylai fod mwy
i ddod. ‘Dyw’r rhain ddim yn swnio
fel bod eu creu ar derfyn, a bydd Brigyn 4 werth
ei glywed, saff.
****
Hefin Jones
«
nôl i 'adolygiadau'
|
|