brigyn.com
 
Adolygiad Dulog: Barn

Fel cynifer o bethau eraill yn ddiweddar, mae dylanwad dathliadau'r Wladfa y llynedd yn drwm ar albwm diweddaraf Brigyn, Dulog.

'Dulog' yw'r gair Cymraeg am armadillo; ceir hefyd, yn ôl pob tebyg, le yn y Wladfa o'r enw Trofa'r Dulog, a'r Wladfa, o'r Malacara i Ddôl y Plu, ydi'r llinyn sy'n dal yr albwm hwn ynghyd.

Mae holl gynnyrch y ddau frawd o Lanrug ar hyd y blynyddoedd wedi dangos ôl gofal a dawn ac maent wedi llwyddo'n ddi-ffael i gynnal yr un safonau uchel, ond efallai mai'r hyn sy'n rhoi arbenigrwydd ychwanegol i'r albwm diweddaraf hwn ydi'r cyfraniadau gan artistiaid eraill.

Mae llais cyfoethog Casi Wyn yn cyfannu'r sain yn 'Ffenest', ond uchafbwynt yr albwm yn ddiamau yw 'Fan hyn (Aquí)', anthem o gân o waith y ddau frawd o Drevelin, Alejandro a Leonardo jones, a recordiwyd tra oeddent yng Nghymru dros yr haf.

Daw holl nodweddion yr albwm ynghyd yn y gân hon: carlam Sbaenaidd y gitâr, y ddau lais fel dwy gloch, y Gymraeg a'r Sbaeneg ochr yn ochr â'i gilydd, a'r neges syml ond uniongyrchol: 'Dwi am aros fan hyn... lle mae'r nentydd yn canu, ie i mi, a marw lle ganwyd fi'.

Mae o'n uchafbwynt grymus i albwm sy'n gwneud ei ran fechan i atgyfnerthu dolen sydd, rywsut neu'i gilydd, yn dal i bontio'r Iwerydd ganrif a hanner ar ôl i'r Mimosa godi'i hwyliau.

Gruffudd Antur

 

« nôl i 'adolygiadau'

   
 
  [brigyn.com ~ cynlluniwyd gan: eurigroberts.com | rarebit © 2014]