Yr Herald Cymraeg:

'Nid hogia bach o Lanrug yw rhain bellach'
 
Pan ddaeth CD cyntaf Brigyn allan ym 2004 fe gamodd Ynyr ac Eurig Roberts allan o gysgod gymharol naïf y grwp ysgol Epitaff a chreu un o’r cyfanweithiau gorau ar CD yn yr Iaith Gymraeg. Gyda caneuon cofiadwy fel “Bohemia Bach” ac “Os na wnei di adael nawr” fe grewyd cerddoriaeth Cymraeg gyda naws Gymreig a fe sefydlwyd Brigyn fel grwp oedd rhaid eu cymeryd o ddifrif. Cyfunwyd y delyn gyda’r electonig a rhywsut roedd llais Ynyr yn gweddu yn well o fewn ffiniau Brigyn na’r efelychiad eilradd o’r Manic Street Preachers a ymgeisiwyd gyda Epitaff.

Dangoswyd aeddfedrwydd a pharodrwydd i arbrofi ymhellach gyda synau electroneg ar ‘Brigyn 2’. I mi roedd ‘Brigyn 2’ yn gam fawr ymlaen, yn galetach ac o bosib, er yn llai amlwg, yn CD gyda llawer mwy o hygrededd o ran y Byd Pop go iawn (nid y ghetto Cymraeg). Yn sgil hyn fe gafodd Brigyn lwyfan yng ngyl Y Dyn Gwyrdd, ac yn wir y nhw agorodd y sioe ar ail flynedd yr yl yng nghyffiniau Gelligandryll.

Wedyn fe ryddhaodd Brigyn gasgliad o “re-mixes” a sengl 7” gan wthio’r ffiniau ymhellach. Yn wir mor bell oedd y ffiniau wedi eu hymestyn erbyn hyn fod rhywun yn cael y teimlad fod clustiau Cymru fach wedi colli’r trywydd yn llwyr. Dydi Cymry fach ddim wedi arfer hefo CD o “re-mixes” a dydi feinyl wel dio ddim yn air Cymraeg nacdi?

A wedyn yr argraff gefais i wedyn fod pethau wedi mynd yn ddistaw. Yn dilyn taith o theatrau Cymru wedi ei drefnu gan y grwp (clodiadwy) fe ryddhawyd y drydedd CD go iawn, ‘Brigyn 3’ i fawr ddim sylw? Fe eisteddodd y CD ar fy nesg am rai misoedd, ynghanol dwsinau arall – dwi angen gwrando ar hwn rhywbryd ond mae’r ffôn yn canu, mae rhywun yn galw heibio, does gennyf ddim i-Pod.........llu o esguseuon.....ddim ddigon da....Euog Mr Mwyn..... sori Ynyr ac Eurig......

Felly dyna wefr wrth i mi gyrraedd Gwyl y Dyn Gwyrdd Sadwrn diwethaf a gadael y car ym maes parcio’r artistiaid a chwlio am y fynedfa a fy band garddwn i gael mynd mewn a chlywed “Os na wnei di adael nawr” yn chwythu fel cwmwl drwy’r awyr o bellteroedd mewnol yr yl. Ar ôl yr holl strach o gael mynediad cyrhaeddais y llwyfan “Folky-Dokey” i glywed dwy gân olaf Brigyn. Siom i mi golli’r set ond pleser o weld y lle yn orlawn.

Fe amcangyfrifais fod o leiaf mil o bobl yn eistedd yn y babell yn gwrando ar Brigyn, ella mwy, ond dwi’n weddol saff fod dros fil yno! Unwaith eto mae rhywun yn gorfod wynebu’r ffaith na fyddai hyn byth yn digwydd yn y sîn Gymraeg. Digon anodd cael mil o bobl hyd yn oed i wylio Bryn Fôn dyddiau yma, ac amhosib cael mil o Gymry Cymraeg yn gwrando ar yr un pryd. Fel sydd yn cael ei brofi gan Sesiwn Fawr yn flynyddol, ella fod na “filoedd” yno ond mae’r miloedd yn y bar neu’r tafarndai – dydi’r miloedd ddim yn gwylio nac yn gwrando ond drwy niwl alcoholaidd ar ddiwedd dydd.

Y Dyn Gwyrdd yw hoff wyl y Guardian, a darllenwyr y Guardian, felly mae nhw rhy “right-on” i beidio gwrando.... wel ella ...... ond dydi hynny ddim yn newid y ffaith fod Brigyn yn canu o flaen y mil-plus yma yn y Gymraeg. Yr hyn am trawodd am eu perfformiad oedd pa mor gyfforddus ar lwyfan oedd Ynyr ac Eurig. Nid yr hogia bach o Lanrug mo rhain bellach ond perfformwyr profiadol, aeddfed a chyfforddus o flaen cynulleidfa. Yn wir mae’n berfformiad hamddenol heb fod yn ffwrdd a hi. Doedd dim arwydd o gwbl o bryder, neu gor fwynhau – mae’n berfformiad graenus, proffesiynol o safon uchel all ddal ei dir ar unrhyw lwyfan yn y byd.

Gyda’r delyn yn amlwg, mae’n rhoi blas Gymreig i’r holl beth a does ru’n o ddarllenwyr y Guardian yn poeni eu bod yn “singing in Welsh”. Dyma y bu nifer ohonom yn frwydro amdano am mor hir – yr iaith Gymraeg yn digwydd yn naturiol yn ardal Crickhowell – buddugoliaeth ddiwylliannol! A dyna ni Brigyn drosodd a finnau yn teimlo’n euog na roddais chwarae teg i’r CD yna. Fe wrandewais wedyn ar ôl cyrraedd adre.

Rhywsut neu’i gilydd gyda ‘Brigyn 3’ mae’r brodyr gwallt felen wedi llwyddo i greu CD hen ffasiwn sydd yn swnio’n gyfoes. Dyma naws Ac Eraill a rhai o sêr yr “Oes Aur” yna cyn ddyfodiad S4C ac arallgyfeirio swyddi. Y gwahaniaeth ydi fod cynhyrchu a safon ‘Brigyn 3’ yn ddeng gwaith gwell na unrhywbeth grewyd yn y 70au, ac ella fe ddylai fo fod o ystyried y dechnoleg sydd fel mêl ar flaen bysedd creadigol Brigyn ond dwi’n gweld Brigyn 3 yn rhan o’r un traddodiad, y peth Cymraeg Cymreig gwledig yna. Er unrhyw electroneg does dim cyffyrddiadau dinesig yma o gwbl. Dyma sain y lechen las ac Eryri ond wedi ei becynu ar gyfer farchnad ehangach.

Methais Cate Le Bon, gwelais 9 Bach, fe es adre cyn y Super Furrys ond beth bynnag ddywedith rhywyn am yl y Dyn Gwyrdd roedd na ddigon o Gymraeg a Chymreig yna i roi blas bach o Gymru i ddarllenwyr y Guardian. Yn od iawn, ac yn anarferol y dyddiau yma, fe ofynnodd sawl un pa iaith ro’n yn siarad yn ystod y dydd. Ehhhhh? Da ni yng Nghymru’r twit bach dwl o ddarllenwr y Guardian .... un boi o Fryste .... a finnau yn ateb...” os ti o Fryste mae’n rhaid dy fod wedi clywed dipyn o Gymraeg o’r blaen!”. Chwerthodd Bristol boy. Gwenais.

Does dim o’i le a Brigyn 3. Dydi’r caneuon ddim mor amlwg yn hits radio efallai o’u cymharu a dyweder “Bohemia Bach”. Ond wedyn ella dyna’r broblem hefyd hefo Brigyn 3, doedd dim o’i le, mae popeth yn ei le, yn rhy daclus, yn rhy saff, yn rhy gyfforddus? Ac eto eu cyfforddusrwydd ar lwyfan oedd un o’r pethau da am eu perfformiad? Ella fod clustiau Cymru fach wedi arfer hefo Brigyn? Ella mae cynulleidfa ehangach yw’r unig ffordd ymlaen i Brigyn – ella fod rhaid gadael y wlad er mwyn cael dod yn ôl?

Rhys Mwyn
Awst 27, 2008

 

« nôl i 'adolygiadau'