brigyn.com
 
Adolygiad Brigyn @ WOMEX 2013: Blog Lois Gwenllian

Brigyn@Womex

Un o'r bandiau mwyaf cynhyrchiol yng Nghymru. Un o'r bandiau mwyaf gwreiddiol yng Nghymru. Un o'r bandiau gorau yng Nghymru. Dyma dair ffordd o blith nifer y gallwch chi ddisgrifio Brigyn. Ond, yn fy marn i - maen nhw'n un o'r bandiau mwyaf under-rated yng Nghymru hefyd. Mae casgliad diweddaraf y brodyr, Brigyn@Womex, a gyhoeddwyd yn arbennig ar gyfer yr ŵyl rhyngwladol yn profi hynny.

Mae'r ddisg 13 trac wedi cywain rhai o ganeuon mwyaf poblogaidd a gwerinol Brigyn er mwyn cyflwyno mewn pecyn bach hyfryd i weddill y byd. Mae'n agor gyda Os na wnei di adael nawr, un o ganeuon mwyaf poblogaidd Brigyn. Roedd hon yn un o'r caneuon cyntaf y clwyais i gan Brigyn ac mae hi'n dal i fod ymhlith fy ffefrynnau. Mae 'na gynifer o fandiau dw i wedi'u mwynhau yn y blynyddoedd diwethaf, ond mae'u caneuon nhw wedi dyddio, a mynd yn angof. Dydy hyn ddim yn wir am Brigyn ac mae hynny'n destimoni i'w gallu cyfansoddi nhw.

Un o gryfderau eraill y band ydy llais Ynyr. Mae 'na rhywbeth mor hiraethus yn ei lais o sy'n cydio yn eich calon chi ac yn gorfodi emosiwn. Dim ond yn llais Georgia Ruth y clywais i hiraeth tebyg yn y blynyddoedd diweddar 'ma. (Dychmygwch ddeuawd... hint hint!) Mae'r hiraeth yma'n amlygu ei hun ar Paid â mynd i'r nos heb ofyn pam a Dilyn yr haul.

Ar y CD mae yna ambell i gân Saesneg hefyd. Er mai band Cymraeg eu hiaith ydy Brigyn i mi - mae'n braf gweld nad ydyn nhw'n colli eu hunaniaeth wrth newid iaith. Mae Airmiles and Railroads yn gofiadwy iawn ac yn un o fy hoff ganeuon i yn y casgliad hwn.

Os nad ydych chi wedi clywed Brigyn yn fyw eto, ewch. Mi gewch chi yn sicr wledd gerddorol gan y ddau frawd. Dyma pryd mae'r gymysgedd electronica a gwerin sy' mor nodweddiadol o Brigyn ar ei orau. Mi fyddan nhw'n cymryd rhan mewn cyngerdd Nadoligaidd gyda Al Lewis, Gildas a Greta Isaac ar 13 Rhagfyr yn Eglwys St. John yn Nhreganna - felly os ydych chi yn yr ardal, ewch da chi!

Ers tipyn rwan, mae traciau gan Brigyn wedi bod yn ddewis rheolaidd ar yr iPod wrth gerdded i ac o'r gwaith bob dydd - ond mae cael y casgliad hwn fel cael rhyw fath o albym 'Goreuon' sy'n gwneud dewis traciau o'r torreth sydd ganddyn nhw'n 'chydig haws. Ond y gwir amdani yw y basa Brigyn yn gallu rhoi tri chasgliad fel hyn at ei gilydd a'u galw nhw'n 'Goreuon'. Maen nhw ddigon da. Mae safon eu cerddoriaeth nhw'n gyson ac yn uchel.

Fel y dywedais i, un o'r bandiau gorau yng Nghymru.

Gyda'r cryno ddisg Brigyn@Womex mi gaiff gweddill y byd weld hynny hefyd.

Yn ystod mis Rhagfyr mae'r CD Brigyn@Womex yn cael ei rhoi am ddim gydag unrhyw archeb o Siop Brigyn.

 

« nôl i 'adolygiadau'

   
 
  [brigyn.com ~ cynlluniwyd gan: eurigroberts.com | rarebit © 2014]