 |
|
|
Diolchiadau
Brigyn:
Yn bennaf mae tri person pwysig iawn wedi ein
helpu ni i wireddu y project yma: Bob, am ein
helpu i ddechrau a gorffen y CD ac am bob tamed
o gyngor cerddorol a personnol along the way,
i Bryn am ein ysbrydoli i neud y fath CD, am ei
ddyfal barhad efo ni, ac am bob cefnogaeth a'i
waith dros yr holl flynyddoedd! I Rob, am y croeso,
y caneuon, ei fynadd, ac am wireddu ambell i syniad
gwallgo. I rhan arall Epitaff, edrych ymlaen i
greu llawer mwy o gerddoriaeth yn y dyfodol agos.
Diolch mawr i Nia, sydd wedi bod yn ddylanwad
immense arna ni, yn enwedig yn ystod
recordio'r 'sesiwn'. Diolch am bob dim, yn enwedig
dy fynadd a'c am sticio efo ni. Diolch yn enwedig
am 'dilyn yr haul'. Diolch i Cass am recordio'r
sesiwn ar gymaint o fyr-rybydd. I Hefin (Dobson)
Jones, dwi'n meddwl na chdi nath greu brigyn,
yr holl gigs ac yr holl nosweithiau o remenisho
am barry welsh a father ted! You're right dave.
I Owain Gwilym, nid yn unig am yr enw, ond am
y brwdfrydedd ynglyn a'n caneuon. I Meinir, Dylan,
Nia, Deian! (tîm solid Gwynfryn!!) Hefyd
i bawb ar ein label, bob band, bob artist. I DJs
gorsafoedd radio led-led Cymru am chwarae ein
caneuon. I Dan, am gael defnyddio ei gyfrifiadur
i orffen y clawr. I Melinda am roid ni mewn cysylltiad
gyda Rob, i Veronica am ein cyflwyno i'r CDs a'r
DVDs nath ysbrydoli yr albym, i'n ffrindiau a'n
teulu ac yn olaf, a pwysica': Diolch am gefnogaeth
hanfodol Mam, Dad a Huw. |
|
|
|
|
|