 |
|
|
Diolchiadau
Brigyn 2:
Diolch enfawr i Rob, am adael ni a'n syniadau
"bonkers" i fewn i'w stiwdio brysur
unwaith eto! I Rhys (rhyswnllyd) James am ddefnydd
o'i gartref a'i stiwdio ac am y sesh wedi'r recordio!
Diolch hefyd i James a criw Bocswn am gael defnyddio'r
stiwdio ar fyr-rybydd. I Bryn, Bob, Meinir, Dylan,
Nia, Deian a pawb arall sy'n gysylltiedig a Gwynfryn
Cymunedol. Diolch i staff a dj's Radio Cymru,
Champion a gorsafoedd radio eraill ym mhrydain
sydd wedi chwarae ein caneuon. I staff sy'n gweithio
ar raglenni S4C am eu cefnogaeth. Llawer o ddiolch
i Olwen a'r criw yn Llanfair ym Muallt, mae'r
gefnogaeth dros y flwyddyn dwytha wedi bod yn
anhygoel, ac fysa'r albym ma byth di gorffen heb
dy input! Diolch am y gigs, llety, a llawer o
hwyl. Hefyd i Liz am y lluniau a'r gefnogaeth
dros y flwyddyn dwytha. I Deian am ein helpu gyda'r
perfformiadau yn ystod y flwyddyn. I Fflur am
gytuno i ganu ar y CD ac wrth wneud hynny - mae'r
gân yn llawer gwell nag oedd hi! Diolch
mawr i Nia a teulu Bryncrug - mae'r dylanwad dal
yn 'immense', diolch am yr holl syniadau, yr help
efo'r gigs, dy fynadd a diolch am sticio efo ni.
Nawni gyflwyno'r CD ma i Hefin a pawb sy'n gysylltiedig
â fo!! am ein mabwysiadu, helpu ni efo recordio,
gigs a hyrwyddo ein CDs. Hefyd i Mam Dad Huw ac
Eirian, a gweddill y teulu. Diolch i bawb sydd
wedi trefnu gigs i brigyn, i bawb a gyfranodd
i'r we-fan ac i bawb sy'n mynychu'r gigs a sy'
wedi prynu ein CDs. |
|
|
|
|
|