brigyn.com
 
Diolchiadau Brigyn3
Mae cyflawni prosiect fel Brigyn 3 wedi bod yn dasg enfawr ac yn un amhosib i wneud heb gymorth llawer o bobl clen a chyfeillgar. O ran y perfformwyr yn gyntaf, diolch i Dan Amor, Steve Balsamo, Sian James, a Nia Williams am ein helpu gyda'r canu, ac i Gwyn Maffia, John Lawrence, Wyn Pearson, Rob Reed, Henry Sears, Dave Wrench (a Sian a Nia eto!) am helpu gyda'r offerynnau. Diolch i Gwyn a Sian, am y croeso cynnes yn stiwdio Gardden, ac i John Lawrence am y croeso i Cae Mabon - o ni 'rioed yn meddwl fysa ni wedi recordio darnau o'r albym yma yn Fachwen!

Diolchiadau lu i Rob Reed am ei sgiliau anhygoel ac am ddod a pob dim at ei gilydd - fysa ni byth wedi dychmygu 3 mlynedd a hanner yn ôl, y bysa ni wedi rhyddhau 3 albym, record feinyl ac albym re-mix erbyn hyn gyda chymorth Rob. Diolch hefyd felly, i dîm sy'n llywio'r llong Gwynfryn Cymunedol. Mae'n dyled yn fawr i Bob a Bryn am yr holl help dros yr holl flynyddoedd. Da ni'n dechrau colli cownt o'r CDs rydym wedi gweithio arnynt erbyn hyn - ond braf ydi deud mai yr un gofal sydd i pob un. Hefyd, diolch i Mabon am ei barodwydd i helpu ni efo sawl agwedd o Brigyn3 - o'r recordio, i'r hyrwyddo.

Diolch i Sbardun a Jim am roi eu cân arbennig i ni, ac am y croeso pob tro yn Pontcanna. Ma hi bob tro yn gret gweithio efo chdi Sbardun, a fydda ni'n siwr o wneud hynny lawer gwaith eto yn y dyfodol. Diolch i Rhys am ei eiriau ffantastic ar gyfer "Seren", ac i Steve am roi ei amser prin i ddod mewn i'r stiwdio i recordio ei lais anhygoel ar y trac.

Diolch eto ac eto i Nia a teulu Bryncrug am yr holl help. Does dim llawer wedi newid ers y dyddiau cyn brigyn... ti dal yn ddylanwad immense arna ni, a diolch am dy fynadd ac am sticio efo ni.

Diolch i'n holl ffrindiau a'n teulu, ac i bawb sydd wedi dod i'r gigs a sy'n prynu ein CDs - hebdda chi, fysa Brigyn ddim yn dal i fodoli! Hefyd, i DJs a chynhyrchwyr rhaglenni radio a theledu am ddefnyddio ein cerddoriaeth - mae'r gefnogaeth rydym wedi ei dderbyn ers ffurfio Brigyn wedi bod yn anhygoel.

Ac yn olaf, (a pwysica'), diolch enfawr am gefnogaeth hanfodol Mam, Dad, Huw, Eirian, Gwenllian a Bethan.
 
 
  [brigyn.com ~ cynlluniwyd gan: eurigroberts.com | rarebit © 2014]