brigyn.com
 

 

Brigyn yn San Francisco: Tachwedd 2005

Dyddiadur Ynyr
(fel a gyhoeddwyd yn yr Herald Gymraeg):

[ IauGweSadSulLlunMawMerIauGweSadSulLlun ]

Mae’r ddau frawd Ynyr ac Eurig Roberts - sef y grwp Brigyn - newydd ddychwelyd o’u taith i San Francisco. Dyma argraffiadau Ynyr o’u hymweliad.

DOEDDWN i 'rioed 'di rhoi fawr o feddwl ar sut fath o le oedd San Francisco a Califfornia, lle mor fawr ac mor bell o adra, ond mae America 'di bod yn wlad sy’n apelio ataf erioed. Efallai nad wyf yn cytuno o gwbl efo polisiau’r rheiny sy’n rhedeg y wlad, ond mae’r lle ei hun fel magned, ac mae wedi bod yn uchelgais ers blynyddoedd i gael perfformio yno. Felly pan ddaeth gwahoddiad gan deulu o San Francisco i dreulio amser yn gigio yno, doedd dim cwestiwn be fysa’r ateb! [top]

Dydd Iau Tachwedd 3: Ffleit wych saith awr i Philadelphia yn pasio mewn chwinciad. Roedd yr "internal", ar y llaw arall yn stori wahanol... "economy flight" anghyfforddus am chwe awr i San Francisco. Yr unig gysur oedd sêt wrth y ffenest. Edrych i lawr ar America, tir mawr gwastad a lonydd hir syth yng nghanol anialwch. Sbio allan a thrio dyfalu dros ble roeddan ni’n hedfan. [top]

Gwener Tachwedd 4: Cyrraedd SF ar doriad gwawr heb gael dim cwsg, a chychwyn yn syth ar benwythnos o gigio. Cael ein tywys i Ddyffryn Napa lle maen nhw’n gwneud y rhan fwyaf o win Califfornia. Dechrau deall maint Califfornia. Golygfeydd anhygoel... "freeways" llydan, "billboards" mawr, ac yna wedi cyrraedd Napa, milltiroedd ar filltiroedd o winllanoedd a degau o dai mawr, gwerth miliynau. Ag eithrio Manhattan, dyma’r lle mwya poblogaidd i fyw ynddo yn America. Ymweld â gwinllan sy’n eiddo i’r teulu Regusci, a chyfarfod ein "guide" am y dydd, Graham Jones, "Jonesy" i’w ffrindiau... yn wreiddiol o Gaerfyrddin.Cawsom gasglu grawnwin a chyfle i flasu gwahanol winoedd y winllan cyn dechrau ein gig cyntaf, yn y "winery". Symud ymlaen i’n gig nesaf, yn nhafarn Silverado’s yn Napa Valley.Chwarae set a oedd yn cynnwys mwyafrif o ganeuon Cymraeg. Yr ymateb positif i’n caneuon, a’r delyn oedd gyda ni, yn ein cadw’n effro. Perfformio hyd at ddwy awr, a diddordeb mawr yn yr iaith. Llawer yn meddwl mai o ddwyrain Ewrop yr oeddem. [top]

Sadwrn Tachwedd 5: Wedi noson hir yn dathlu ar ôl y gig, roedd deffro am 7.00 i wylio Cymru v Seland Newydd yn nhy Jonesy yn brofiad blinedig ond cyffrous. Jonesy wedi gwahodd llawer o’i ffrindiau o NZ, ac er fod y sgôr yn siomedig, roedd 'na lawer o hwyl, a Jonesy yn un o'r "hosts" gorau dwi 'rioed 'di gyfarfod! Yn ôl i San Francisco i wneud cyfweliadau ar gyfer camerau Wedi 7. Braf â gweld y ddinas yng ngolau dydd. Sylweddoli lle mor braf, hamddenol a chartrefol ydi SF. Gorffenodd nos Sadwrn ym mwyty Sbaenaidd "Cha Cha Cha’s" yn yfed Sangria wrth ddisgwyl bron i ddwy awr am fwyd. Anghofio'n llwyr mai yno i fwyta yr oeddem! Fy nghynlluniau i gael noson dawel wedi mynd drwy’r ffenest, ond bwyd da... o be dwi’n gofio! [top]

Sul Tachwedd 6: Defnyddio "ffilmio" yn esgus i weld yr atyniadau â twristaidd mwyaf poblogaidd, yn cynnwys reidio beic tandem ar y cei, gweld y Golden Gate Bridge, China Town a Lombard Street (y stryd serth enwog). Cyrraedd Tafarn y Blackthorn erbyn 4.30 y prynhawn, ac yno y buom tan 1.00 o gloch y bore. Gig bwysig, nid yn unig am fod criw Wedi 7 yn ei ffilmio, ond roedd rhaid chwarae am dros dair awr! Brigyn 'rioed di edrych mor dda ar lwyfan gyda'r aelodau gwadd: Nia y delynores ar un ochr, a Branwen yn chwarae'r trwmped ar yr ochr arall. Lwcus fod y ddwy mor gerddorol, gan inni jamio clasuron fel Lady Madonna, Moon River, Everybody’s Talking a llawer mwy. Ond i goroni’r cyfan roedd hi’n braf cael ymateb hael iawn i’n caneuon ein hunain... a braf oedd dweud mai'r caneuon aeth i lawr orau oedd anthemau anfarwol Cymreig fel Yma o Hyd a Lisa Lân. Noson i'w chofio. Teimlo fod pawb wedi eu plesio. [top]

Llun Tachwedd 7: Yn dilyn noson fawr, roedd dydd Llun yn drist... ffarwelio â chriw Wedi7, a phawb wedi llwyr ymlâdd. Fe ddechreuodd hi fwrw y pnawn hwnnw, yr unig dro y gwelwyd glaw ar ein ymweliad. Amser edrych yn ôl ar benwythnos wallgo ond bythgofiadwy, a meddwl am yr wythnos oedd i ddod. [top]

Mawrth Tachwedd 8: Ymweld â’r dref, a bwyta yn un o'm hoff lefydd yn SF o hyn ymlaen... Bubba Gumps, bwyty yn seiliedig ar y ffilm Forrest Gump. [top]

Mercher Tachwedd 9: Llogi car i ddreifio i ben draw Califfornia, ac ymlaen i Tahoe, Nevada. Hyn ar ôl ni ymweld â Shelley, un o’m ffrindiau gorau yn chweched dosbarth Ysgol Brynrefail. Heb ei gweld hi ers pedair blynedd. Mae’n briod â pheilot yn yr US Air Force, felly roedd rhaid ymweld â hi yn y Travis Air Base. Roedd hi mor neis gweld Shelley a Mia ei merch. Wedyn, ymlaen trwy’r coedwigoedd i South Lake Tahoe. Mae gamblo yn gyfreithlon yn Nevada, felly dim syndod i weld pedwar casino enfawr dim ond dwy-lath o’r ffin. Treulio awr yn un ohonynt yn gwylio pobl yn gwastraffu eu harian, heblaw am un ddynes lwcus a enillodd $24,000 allan o’r peiriant $1. [top]

Iau Tachwedd 10: Braf deffro yn Nevada. Gan amlaf, byddai’n eira mawr yn Tahoe yr adeg yma o’r flwyddyn, ond roedd hi’n haul tanbaid ac roeddem wrth ein boddau yn sylwi ar le mor lan a naturiol. Cinio mewn man hyfryd ar lan Llyn Tahoe. Golygfeydd na all camera ei ddal... lle tawel a phur. Profi America hollol wahanol. Yma roedd eirth a cheirw yn croesi’r ffordd; dylanwad y Cowbois yn dal yn amlwg, a milltiroedd ar filltiroedd o dir heb ei hagru gan ddyn. Cychwyn yn ôl i San Francisco wrth iddi nosi, ac roedd yn wefr cyrraedd y ddinas unwaith eto. [top]

Gwener Tachwedd 11: Ymweld â Mission St, ardal dlota’r ddinas, ond yma mae calon y lle i mi. Er pob rhybudd am beryglon y lle, roeddwn yn teimlo’n saff iawn o hyd yn San Francisco. Gyda’r nos, ein gig ola, mewn bar or enw "Coffee to the People". Bar coffi ar Haight Street, sef canolbwynt y "Summer of Love" 1967. Ac roedd vibes 67 dal yno. Lle trendi, lle mae stiwdants yn dod gyda’i laptops i "chillio" ag yfed coffi. Llawn o bobl o bob oed, lliw a meddylfryd. Hon oedd gig orau ein trip i SF. Sylwodd ein ffrindiau fod y lle 'di tawelu’n syth gyda nodyn cyntaf ein set. Roedd pob myfyriwr wedi troi eu sylw o’u laptops i’r delyn, gitar a’r canu Cymraeg, ac roedd hyd yn oed hippies y stryd yn llifo i mewn i weld rhywbeth na fyddent yn ei weld efallai byth eto. Ymateb gwresog, ac un o’r ffefrynnau o gigs Brigyn erioed. [top]

Sadwrn Tachwedd 12: Diwrnod siopa, a hel anrhegion i’r “folks back home!” [top]

Sul Tachwedd 13: Y diwrnod olaf. Reidio beics dros y Golden Gate Bridge, a bwyta Sushi gyda’r nos. [top]

Llun Tachwedd 14: Ffarwelio a hedfan yn ôl o San Francisco. Cychwyn o'r maes awyr ar fore Llun, ond roedd hi'n bnawn dydd Mawrth arnom ni'n cyrraedd yn ôl i Benisarwaun, a finna'm di cysgu o gwbl. Wedi'r teithio hir yma, nes i sylweddoli pa mor bell fuo ni, a pha mor lwcus oeddan ni i gyflawni'r fath beth. [top]

Roedd y profiad o gigio yn SF yn wych. Roeddwn wedi dychmygu y basan ni'n gwneud pob dim gyda’r Gymdethas Gymraeg, ond ddaru ni ddim gwneud hynny o gwbl. Roedd pob gig yn rhai go iawn, a phobl SF/Califfornia oedd y dyrfa bob tro. Ella mai dyma pam y gweithiodd y gigs mor dda, gan ei fod o’n brofiad i ni, ac yn brofiad newydd i’r gynulleidfa hefyd. [top]

 
     

 

 

  [brigyn.com ~ cynlluniwyd gan: eurigroberts.com | rarebit © 2014]