| Brigyn:
›
Os na wnei di adael
nawr
› Bohemia
bach
› Llipryn
› Diwedd
y dydd, diwedd y byd
› Gyrru
drwy y glaw
› Angharad
› Disgyn
wrth dy draed
› Lleisiau
yn y gwynt
Brigyn2:
› Addewid Gwag
› Diwrnod
marchnad
› Popeth
yn ei le
› Y Sgwar
› Serth
› Darn
o'r un brethyn
› Byd brau
› Hwyl
fawr, ffarwel
› Bysedd
drwy dy wallt
Brigyn
Bach:
› Buta
efo'r maffia
› Jericho
› Ty Bach
Twt
Brigyn3:
› Fyswn i... fysa ti?
› Subbuteo
› Allwedd
› Kings, Queens, Jacks
› Isel
› Wedi'r cyfan
› Tu ôl i'r wên
› Pioden
› Seren
› Paid
â mynd i'r nos heb ofyn pam
Haleliwia:
›
Haleliwia
› Dilyn
yr haul
Yr
Arth a'r Lloer:
› Yr
Arth a'r Lloer
› Nadolig
Ni
One
Way Streets:
› One
Way Streets
› Airmiles
& Railroads
› Stepping
Stones |
Fyswn i... fysa ti?
Fyswn i, os fysa ti’n rhoi dy fys yn y tân
Fyswn i, os fysa ti’n neidio i’r pen dwfn
Fyswn i, os fysa ti’n hau ac yn medi’r grawn
Fyswn i, os fysa ti’n udo ar y lleuad llawn
Ges ti dy boeni gan amheuon, dy lethu gan demtasiwn?
Nes ti fentro brathu’r afal oedd yn wenwyn trwyddo’i gyd
Ddes ti yma i nghynhyrfu, ac eistedd yno’n gwenu
Ddes ti yma mond i darfu arna i
Ond does na unlle i droi
Unlle i ddianc, unlle i ffoi
Does na unlle i droi
Unlle i guddio, unlle i droi
Does na unlle i ffoi
Fyswn i, os fysa ti’n rhoi dy fys yn y tân
Fyswn i, os fysa ti’n neidio i’r pen dwfn
Nes ti achub ar dy gyfle, a ’nal i dan gyfaredd
Ac mi glywson ni y bleiddiaid yn udo ar y lloer
Ddes ti yma i nghynhyrfu, ac eistedd yno’n gwenu
Nes i geisio cadw mhwyll, ond ro’n i dan dy swyn
Fyswn i ... fysa ti?
|