Brigyn:
Os na wnei di adael nawr
Bohemia bach
Llipryn
Diwedd y dydd, diwedd y byd
Gyrru drwy y glaw
Angharad
Disgyn wrth dy draed
Lleisiau yn y gwynt

Brigyn2:
Addewid Gwag
Diwrnod marchnad
Popeth yn ei le
Y Sgwar
Serth
Darn o'r un brethyn
Byd brau
Hwyl fawr, ffarwel
Bysedd drwy dy wallt

Brigyn Bach:
Buta efo'r maffia
Jericho
Ty Bach Twt

Brigyn3:
Fyswn i... fysa ti?
Subbuteo
Allwedd
Kings, Queens, Jacks
Isel
Wedi'r cyfan
Tu ôl i'r wên
› Pioden
Seren
Paid â mynd i'r nos heb ofyn pam

Haleliwia:
Haleliwia
Dilyn yr haul

Yr Arth a'r Lloer:
Yr Arth a'r Lloer
Nadolig Ni

One Way Streets:
One Way Streets
Airmiles & Railroads
Stepping Stones

Pioden

Gwyn a du, a ddylwn i, droi yn fy unfan i’th gyfarch di?
Dy gân yn fy swyno, dy ddawns ysgafn droed
Dy wên yn un ddoniol, tra’n chwarae yn y coed

Mi goda i fy llaw cyn symud mlaen ar fy nhaith
Mi gollais i’r cyfle i gloi ar fy ôl, lawer gwaith

Yn yr ardd, aderyn hardd
Dy wisg yn fy hudo, a’m eiddo yn temtio
Creadur craff, ’s neb yn saff
Tra’n edrych mor ffyddlon, ti’n bwydo’r amheuon
Ac ysu am drysorau cain

Du a gwyn, ti’n methu dim, manteisio ar unrhyw gyfle prin
Fy ffenest ar agor, edrychaist o’r gwair
Cymeraist dy gyfle i gipio’r aur

Mi godaist fy ngobeithion a’u tynnu i lawr mewn dim
Mi gollais i’r cyfan i leidr a oedd mor chwim

Yn yr ardd, aderyn hardd
Dy wisg yn fy hudo, a’m eiddo yn temtio
Creadur craff, ’s neb yn saff
Siom yw darganfod fod gen ti arferion cas

Pioden wen, pioden ddu, meddal yw dy feddwl di
Pioden wen, pioden ddu, paid â thrio’n twyllo ni
Pioden wen, pioden ddu, cyfrwys yw dy gynllun di
Pioden wen, pioden ddu, paid â thrio’n twyllo ni
Pioden wen, pioden ddu, dial ar ein gwendid ni
Pioden wen, pioden ddu, paid â thrio’n twyllo ni