brigyn.com
 
Brigyn Lyrics:

Os na wnei di adael nawr
Bohemia bach
Llipryn
Diwedd y dydd, diwedd y byd
Gyrru drwy y glaw
Angharad
Disgyn wrth dy draed
Lleisiau yn y gwynt

Addewid gwag
Diwrnod marchnad
Popeth yn ei le
Y Sgwâr
Serth
Darn o'r un brethyn
Byd brau
Hwyl fawr, ffarwel
Bysedd drwy dy wallt

Buta efo'r Maffia
Jericho
Tŷ Bach Twt

Fyswn i... fysa ti?
Subbuteo
Allwedd
Kings, Queens, Jacks
Isel
Wedi'r cyfan
Tu ôl i'r wên
Pioden
Seren
Paid â mynd i'r nos heb ofyn pam

Haleliwia
Dilyn yr haul

Yr Arth a'r Lloer
Nadolig Ni

One Way Streets
Airmiles & Railroads
Stepping Stones

Home
I Need All The Friends I Can Get

Ara deg
Fflam
Deffro
Gwyn dy fyd
Tlws
Pentre sydyn
Ffilm
Weithiau
Gwallt y forwyn

Dôl y Plu
› Rhywle mae 'na afon
Ana
Llwybrau
Malacara
Fan hyn (Aquí)
Ffenest

 
Rhywle mae 'na afon

Hir yw’r ffordd a moel yw’r erwau
hir yw’r ffordd a phell ’di’r daith
gweld y siwrnai weithiau’n anodd
’di meddwl troi yn ôl sawl gwaith

Fry uwchben, cymylau’n rasio
gwibio heibio ar ei hynt
prysur mae yr oriau’n pasio
amser yn mynd efo’r gwynt

Ond rhywle mae ’na afon
ar ei thaith i’r môr
a rhywle, mae ’na lwybr
a rhywle mae ’na ddôr

Does dim waliau sydd rhaid eu dymchwel
does dim drysau sydd rhaid eu cau
does dim terfyn, na dim ffiniau
gorwelion newydd yn nesáu

Heno mae ’na leuad newydd
yn taflu ei olau dros y tir
ac ysbryd newydd sydd ar gychwyn
mae pen y daith i’w weld yn glir

Ond rhywle mae ’na afon
ar ei thaith i’r môr
a rhywle, mae ’na lwybr
a rhywle mae ’na ddôr.



[Lyrics: Emyr Huws Jones]

 
  [brigyn.com ~ website designed by: eurigroberts.com | rarebit © 2014]