Brigyn – Patagonia150

Dyma gofnod o daith Brigyn gyda Nicolas Avila, o Batagonia ym mis Gorffennaf 2015 - rhan o brosiect y brodyr Ynyr ac Eurig Roberts i ddathlu 150 mlynedd o’r Wladfa Gymreig yn yr Arianin. Dilynwch #Patagonia150 - @Dathlu150 - patagonia150.org ar gyfer mwy o wybodaeth o’r dathlu.

Yn ogystal â chyd-berfformio a recordio gyda Nicolas o Comodoro Rivadavia, bu Brigyn hefyd yn cyd-sgwennu a recordio gyda Alejandro a Leonardo Jones o Drevelin, Hector Ariel o'r Gaiman yn ogystal a cherddorion a beirdd o Gymru sydd â chysylltiadau efo Patagonia.

Penllanw y gwaith fydd cyhoeddi CD ym mis Rhagfyr 2015 i gyflawni blwyddyn o ddathlu.

 


Dyddiadur – Taith Gorffennaf 2015

Mehefin 29

Teithiodd Nico o Buenos Aires i Gaerdydd a chyrraedd am 2pm. Erbyn 4pm roeddem yn gwneud ‘soundcheck’ yn y Senedd, ym Mae Caerdydd, ar gyfer ein perfformiad cyntaf gyda’n gilydd. Digwyddiad rhwng Llywodraeth Cymru a Llysgenhadaeth yr Ariannin i lawnsio oriel o ddelweddau o’r Wladfa yn rhan swyddogol o'r dathliadau.


Diolch i Ashok Ahir am y llun uchod

Mehefin 30 - Gorffennaf 2

Cyfnod o ymarfer a chyfansoddi yng Nghaerdydd. Nid yn unig bu'n gyfle i ymarfer ar gyfer y sioeau byw, ond cafwyd amser i gyd-gyfansoddi a gwneud trefniadau 5 cân.

Gorffennaf 3

Gweithdy a chyflwyno'r Bandoneon, y Tango a hanes y Wladfa i ddisgyblion Ysgol Treganna Caerdydd, cyn perfformio ambell i gân yn y neuadd fawr.

Gorffennaf 4

Taith i Ogledd Cymru i berfformio mewn 2 gig.

Braf oedd cael dangos ardaleodd hyfryd o Gymru i Nico, ar y daith o'r de i'r gogledd - Bannau Brycheiniog, Llyn Clywedog, Cricieth, Nant Gwrtheyrn, Felinheli, Llanberis ond i enwi ychydig!!

Gorffennaf 5

Perffromiad unigryw byw o Lanrug a gafodd ei ffrydio ar yr app 'Periscope'. Diolch i'r nifer fawr a wyliodd y perfformiad unigryw hwn!!

Gorffennaf 6

Perfformiad byw ar raglen Dylan Jones, BBC Radio Cymru, gyda'r bore cyn teithio i Lanuwchllyn.

Recordio gyda Osian Williams gyda'r pnawn cyn cynnal gweithdy a pherfformiad yn yr Eagles, Llanuwchllyn i Aelwyd Penllyn yn y nos.

Gorffennaf 7

Brigyn a Nico yn recordio caneuon gyda Osian Williams yn ei stiwdio yn Llanuwchllyn.

Gorffennaf 8

Diwrnod yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.

Gorffennaf 9

Bu cyfle i Nico berfformio yn Llysgenhadaeth yr Ariannin yn Llundain, rhwng ei gigs gyda Brigyn yn Llangollen a Phontypridd. Dyma lun trawiadol o barti ar y 9fed o Orffennaf - dydd Datganiad Annibyniaeth yr Ariannin.

Gorffennaf 11

Daeth taith gyntaf 'Brigyn a Nico' i derfyn ym Mharc Ynys Angharad, Pontypridd. Bore hyfryd a braf gweld yr ŵyl arbennig hon yn ôl yn ei anterth. Daeth Tommo a Magi Dodd o BBC Radio Cymru i weld ni'n canu - Diolch i Magi am dynnu y lluniau o'r perfformiad!!

Gorffennaf 21

Recordio y gân "Fan Hyn", fersiwn Gymraeg o "Aquí" gyda'r brodyr Leonardo ac Alejandro o Drevelin, tra roedden nhw ar daith yng Nghymru. Mae Leonardo ac Alejandro Jones yn ddau frawd, fel ninnau, sy'n hoff iawn o ganu a chadw'n heini! Bu'r brodyr Jones ar Her Cylchdaith Cymru gyda Rhys Meirion ac enwogion eraill cyn ymuno â ni i recordio yn stwidios Tŷ Cerdd, Caerdydd cyn dychwelyd i Drevelin.

 


Lansio Cymru•Patagonia – Ionawr 2015

Dechrau swyddogol prosiect "Brigyn-Patagonia" oedd perfformio yn nerbyniad y Llywodraeth a'r Cyngor Prydeinig yng Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd i ddathlu 150 mlynedd o'r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia. Bron i flwyddyn yn ddiweddarach mae ffrwyth llafur ein gweledigeth yn barod i'w gyflwyno, ar ffurf CD.

Bydd manylion i'w gael ar brigyn.com yn fuan iawn.

 


Gwylio

 


Gwrando

 


Cysylltu

 


Dolenni

 
Ymuno â rhestr e-bost Brigyn:

 

 
  [brigyn.com ~ website designed by: eurigroberts.com / rarebit © 2014]