| 
             › Os na wnei di adael nawr 
              › Bohemia bach 
              › Llipryn 
› Diwedd y dydd, diwedd y byd 
› Gyrru drwy y glaw 
› Angharad 
› Disgyn wrth dy draed 
› Lleisiau yn y gwynt 
 
› Addewid gwag 
› Diwrnod marchnad 
› Popeth yn ei le 
› Y Sgwâr 
› Serth 
› Darn o'r un brethyn 
› Byd brau 
› Hwyl fawr, ffarwel 
› Bysedd drwy dy wallt 
 
› Buta efo'r Maffia 
› Jericho 
› Tŷ Bach Twt 
 
› Fyswn i... fysa ti? 
› Subbuteo 
› Allwedd 
› Kings, Queens, Jacks 
› Isel 
› Wedi'r cyfan 
› Tu ôl i'r wên 
› Pioden 
› Seren 
› Paid â mynd i'r nos heb ofyn pam 
 
› Haleliwia 
› Dilyn yr haul 
 
› Yr Arth a'r Lloer 
› Nadolig Ni 
 
› One Way Streets 
› Airmiles & Railroads 
› Stepping Stones 
 
› Home 
› I Need All The Friends I Can Get 
 
› Ara deg 
› Fflam 
› Deffro 
› Gwyn dy fyd 
› Tlws 
› Pentre sydyn 
› Ffilm 
› Weithiau 
› Gwallt y forwyn 
 
› Dôl y Plu 
› Rhywle mae 'na afon 
› Ana 
› Llwybrau 
› Malacara 
› Fan hyn (Aquí) 
› Ffenest  | 
            | 
          
            
              | Paid â mynd i'r nos heb ofyn pam | 
             
           
            Paid â mynd i’r nos heb ofyn pam;  
              ysa, yn dy henaint, am droi’n gas  
              wrth y drefn a fyn ddifodi’r fflam.  
               
              Doethion yn eu noethni’n mentro’r cam  
              i lawr i bwll heb olau ar y ffas,  
              ân’ nhw ddim yn llwch heb ofyn pam.  
               
              Dynion da’n eu dagrau’n cofio cam 
              alw dawns y don mewn cilfach las,  
              ân’ nhw ddim i’r dwfn heb ofyn pam.  
               
              Dynion gwyllt a gipiai, o roi llam,  
              hynt yr haul ar gân, cyn colli blas, 
              ân’ nhw ddim yn bridd heb ofyn pam.  
               
              Gwyr y beddau’n llon er gweld, yn gam,  
              wreichion gwib ffwrneisi’r sêr ar ras,  
              ân’ nhw ddim i’r gwag heb ofyn pam.  
               
              Tithau ‘nhad yng ngwagle’r Pelican,  
              rhega fi a’th ddagrau llym, di-ras.  
              Paid â mynd i’r nos heb ofyn pam  
              wrth y drefn a fyn ddifodi’r fflam.    
               
               
               
              [Geiriau: Dylan Thomas - Trosiad: T. James Jones]  |