| 
             › Os na wnei di adael nawr 
              › Bohemia bach 
              › Llipryn 
› Diwedd y dydd, diwedd y byd 
› Gyrru drwy y glaw 
› Angharad 
› Disgyn wrth dy draed 
› Lleisiau yn y gwynt 
 
› Addewid gwag 
› Diwrnod marchnad 
› Popeth yn ei le 
› Y Sgwâr 
› Serth 
› Darn o'r un brethyn 
› Byd brau 
› Hwyl fawr, ffarwel 
› Bysedd drwy dy wallt 
 
› Buta efo'r Maffia 
› Jericho 
› Tŷ Bach Twt 
 
› Fyswn i... fysa ti? 
› Subbuteo 
› Allwedd 
› Kings, Queens, Jacks 
› Isel 
› Wedi'r cyfan 
› Tu ôl i'r wên 
› Pioden 
› Seren 
› Paid â mynd i'r nos heb ofyn pam 
 
› Haleliwia 
› Dilyn yr haul 
 
› Yr Arth a'r Lloer 
› Nadolig Ni 
 
› One Way Streets 
› Airmiles & Railroads 
› Stepping Stones 
 
› Home 
› I Need All The Friends I Can Get 
 
› Ara deg 
› Fflam 
› Deffro 
› Gwyn dy fyd 
› Tlws 
› Pentre sydyn 
› Ffilm 
› Weithiau 
› Gwallt y forwyn 
 
› Dôl y Plu 
› Rhywle mae 'na afon 
› Ana 
› Llwybrau 
› Malacara 
› Fan hyn (Aquí) 
› Ffenest  | 
            | 
          
             Pan â'r haul dros ben y bryn  
              Ca' dy lygaid bach yn dynn.  
              Cei swatio'n esmwyth yn dy grud,  
              A boed dy fyd yn wyn.  
               
              Si hei lwli lwli lw  
              Si hei lwli lw.  
               
              Pan ddaw'r nos dros ben y bryn  
              Bydd y lloer yn codi'n syn  
              A'i lygaid llawn yn gwylio'r Arth  
              Yn hofran parth â'r glyn.  
               
              Si hei lwli...  
               
              Pan ddaw'r fawr i lawr y glyn,  
              Cheith hi'm mentro mewn fan hyn  
              I d'wyllu lloer dy wyneb tlws.  
              Mae bollt y drws yn dynn.  
               
              Si hei lwli...  
               
              Pan ddaw'r wawr â'i fory gwyn  
              Agor di dy lygaid syn.  
              Diflanna'r Arth a'r lloer o'r nen.  
              Bydd haul uwchben y bryn.  
               
              Si hei lwli...    
               
               
               
              [Geiriau: T. James Jones]  |