| 
             › Os na wnei di adael nawr 
              › Bohemia bach 
              › Llipryn 
› Diwedd y dydd, diwedd y byd 
› Gyrru drwy y glaw 
› Angharad 
› Disgyn wrth dy draed 
› Lleisiau yn y gwynt 
 
› Addewid gwag 
› Diwrnod marchnad 
› Popeth yn ei le 
› Y Sgwâr 
› Serth 
› Darn o'r un brethyn 
› Byd brau 
› Hwyl fawr, ffarwel 
› Bysedd drwy dy wallt 
 
› Buta efo'r Maffia 
› Jericho 
› Tŷ Bach Twt 
 
› Fyswn i... fysa ti? 
› Subbuteo 
› Allwedd 
› Kings, Queens, Jacks 
› Isel 
› Wedi'r cyfan 
› Tu ôl i'r wên 
› Pioden 
› Seren 
› Paid â mynd i'r nos heb ofyn pam 
 
› Haleliwia 
› Dilyn yr haul 
 
› Yr Arth a'r Lloer 
› Nadolig Ni 
 
› One Way Streets 
› Airmiles & Railroads 
› Stepping Stones 
 
› Home 
› I Need All The Friends I Can Get 
 
› Ara deg 
› Fflam 
› Deffro 
› Gwyn dy fyd 
› Tlws 
› Pentre sydyn 
› Ffilm 
› Weithiau 
› Gwallt y forwyn 
 
› Dôl y Plu 
› Rhywle mae 'na afon 
› Ana 
› Llwybrau 
› Malacara 
› Fan hyn (Aquí) 
› Ffenest  | 
            | 
          
             Tlws ’di’r wên   
              Sy’n fy neffro i yn y bore, bore bach  
              Sy’n cadw ’myd i’n llon pan fydda i ar ras  
              Dalia’n dynn tan fydd hi’n  ddiwedd dydd, ddiwedd dydd  
               
              Tlws ’di’r wlad   
              Lle mae’r haul yn lliwio’r tir  ar ddiwrnod braf  
              Yn y gaeaf llwm, pan mai atgof ydi’r haf  
              Todda’r iâ a gad i mi weld yn glir  
              Gweld yn glir  
               
              O mor dlws yw’r haul ar y gorwel  
              O mor dlws oedd gweld cwch yn y cei  
              O mor dlws yw’r blodau ger y ffenest  
              O mor dlws yw’r byd heb ei fai  
               
              Tlws ’di’r sêr  
              Tlws ’di sŵn y tylluanod ganol nos  
              Plu yr eira’n dawel ddisgyn ar y rhos  
              Dalia’n dynn tan fydd hi’n  doriad gwawr, yn doriad gwawr  
               
              O mor dlws yw’r haul ar y gorwel  
O mor dlws oedd gweld cwch yn y cei  
O mor dlws yw’r blodau ger y ffenest  
O mor dlws yw’r byd heb ei fai  
 
              Mae un wên fach dlos   
              Fel agor y drws ar stafell llawn arian ac aur   
              Mae un wên fach dlos fel bod ym mharadwys  
              Pam na cha’ i fod yma am oes?  
               
              Tlws, Tlws, Tlws, Tlws, Tlws  
              Tlws, Tlws, Tlws, Tlws, Tlws... 
               
Tlws ’di’r wlad   
Lle mae’r haul yn lliwio’r tir  ar ddiwrnod braf  
Yn y gaeaf llwm pan mai atgof pell ’di’r haf  
Todda’r iâ a gad i mi weld yn glir  
Gweld yn glir 
 
Tlws ’di’r wên  
Sy’n fy neffro i yn y bore, bore bach  
Sy’n cadw ’myd i’n llon pan fydda i ar ras  
Dalia’n dynn tan fydd hi’n  ddiwedd dydd, ddiwedd dydd.  |