Tu ôl i'r wên
Tu
ôl i'r wên, ti'n dawel yno'n cuddio
A minnau'n gobeithio dy fod ti'n edrych arna
i
Tu
ôl i'r wên, mae'r teimlad ynai'n
cydio
ond dydw i 'mond yn twyllo'n hun, wrth ddiflanu
i fy nghysgod du
Tu
ôl i'r wên, yn ddisglair yn y golau
a finnau'n trio 'ngorau i gael eiliad o'th sylw
prin
Tu
ôl i'r wên, dychmygu bod mewn cariad
Ac mi af innau i ystyried os wyt ti'n ffitio'r
esgid hon?
A wnei di wisgo yr esgid hon?
Tu
ôl i'r wên, mae'r teimlad o hyd
yn cydio
Fel gweiddi lawr hen simne fawr, sy'n mygu yn
y glaw
Tu
ôl i'r wên, mi af innau'n ôl
i guddio
A byw o hyd i obeithio y daw hi'n ôl i'm
myd ... rhyw ddydd |