| 
             Ma siwr ti'm isio hyn,  
              rhyw gwyno ar gân o lais hogyn,  
              ti'm am glywed, ond wedyn,  
              mae nagrau i'n llenwi llyn.  
               
              Oedd hi'n anodd iawn heno,  
              yn y nos efo neb i wrando,  
              a dod draw oedd rhaid am dro,  
              dod atat i'r stryd eto.  
               
              Dwi'n cofio'r adeg pan oedd na wegian 
              yn dy goesau yn eiliad y gusan,  
              cofio chdi'n fy neud i'n wan, a chofio'r  
              byd ar agor, a'r byw darogan...  
               
              A heno dwi ym mhen y daith  
              a dwisio gwbod oes gobaith  
              y doi di'n ôl, dim ond un waith.  
               
              Edrych, os wyt ti adra,  
              yn wyneb y ffenest a gwena,  
              ar wiriondeb jysd gwranda,  
              dwi'n ysu deud un nos da.  
               
               
               
              [Geiriau: Rhys Iorwerth]  |