|
01.
Cyflwyniad
02. Os na wnei di
adael nawr
03. Bohemia
bach
04. Llipryn
05. Diwedd
y dydd, diwedd y byd
06. Gyrru
drwy y glaw
07. Sonar
08. Angharad
09. Abacus
10. Disgyn
wrth dy draed
11. Lleisiau
yn y gwynt
|
Dyma'r CD a ddechreuodd y prosiect cerddorol newydd
'Brigyn' gan y brodyr Ynyr ac Eurig Roberts. Recordiwyd
y traciau i gyd yn ystod Medi 2004, yn bennaf
gyda'r cynhyrchydd Rob Reed, ac yn wreiddiol fel
casgliad o demos arbrofol. Ar ôl penderfynu
fod y gwaith gorffenedig yn swnio'n dderbyniol,
penderfynwyd rhyddhau'r traciau ar CD tua mis
ar ôl i'r recordio gael ei gwblhau. Mae'r
albym yn gymysgedd o gerddoriaeth 'ambient' offerynnol,
i sampls electronig, i gerddoriaeth hollol acwstic.
Ymysg y traciau mwyaf cyfarwydd ar yr albym yma,
mae 'Bohemia Bach', ac 'Os na wnei di adael nawr'
- sy'n cynnwys sampl cofiadwy o delyn, curiadau
synthetic, a llinynau indiaidd. |