  | 
          01. Fyswn i... fysa ti? 
            02. Subbuteo 
            03. Allwedd 
            04. Kings, Queens, Jacks 
            05. Isel 
            06. Gwreichion 
            07. Wedi'r cyfan 
            08. Tu ôl i'r wên 
            09. Pioden 
            10. Seren 
            11. Paid â mynd i'r nos heb ofyn pam | 
            | 
          Dyma drydydd albym stiwdio  Brigyn, sy'n cynnwys 11 o ganeuon gwerinol-newydd eu naws. Cychwynodd y daith o hybu'r albym gyda sesiwn fyw arbennig ar BBC 6Music ym mis Mai 2008, a dilynnodd llawer o berfformiadau cofiadwy dros weddill y flwyddyn mewn gwyliau yn cynnwys Sesiwn Fawr, a Gŵyl y Dyn Gwyrdd.  
             
            Mae'r albym yn cynnwys cyfraniadau gan nifer o gerddorion adnabyddus (Siân James, John Lawrence, Alun 'Sbardun' Huws, Dan Amor a Steve Balsamo), ac yn ogystal, mae'r geiriau ar gyfer y ddwy gan olaf ar 'Brigyn3' wedi eu hysgrifennu gan feirdd.  
             
            Mae'r gân sy'n cloi'r albym (Paid â mynd i'r nos...) yn drosiad gan y prifardd T. James Jones o'r gerdd enwog 'Do not go gentle into that good night' gan Dylan Thomas. | 
            |