|
a. Home
aa. I Need All The Friends I Can Get |
|
Dyma ail gynnyrch Saesneg i Brigyn ei ryddhau yn ystod 2010. Rhyddhawyd y sengl 'ddwbl ochr-A' ym mis Rhagfyr, ac mae ar gael i'w llwytho i lawr o iTunes. Yn ganeuon tyner a thwymgalon - mae'r ddwy gân unwaith eto'n arddangos gallu Brigyn i gyfansoddi melodïau cofiadwy'n ddidrafferth.
Ysbrydolwyd y geiriau ar gyfer 'I Need All The Friends I Can Get' gan lyfr o'r un enw gan Charles M. Schulz, a roedd rhyddhau'r sengl hon yn cyd-fynd â phenblwydd 'Peanuts' yn 60 mlwydd oed yn ystod 2010. Mae 'Home' ar y llaw arall yn deyrnged syml i 'Wlad y Gân', ac ysgrifennwyd hon yn dilyn taith arall dramor yn gynharach yn y flwyddyn - y tro hwn i Batagonia.
Roedd CD nifer cyfyngedig o'r sengl yma ar gael i'w brynu yn ecsglwsif o siop ar-lein Brigyn. |
|