brigyn.com
 
             
       
Dulog ~ Rhagfyr 5, 2015
01. Dôl y Plu
02. Rhywle mae 'na afon
03. Ana
04. Llwybrau
05. Malacara
06. Fan hyn (Aquí)
07. Quincho
08. Ffenest
09. Deffro [sesiwn fyw - trac bonws]
10. Pentre sydyn [sesiwn fyw - trac bonws]
  Prin flwyddyn yn dilyn rhyddhau 'Brigyn 4', cyhoeddwyd casgliad arall newydd sbon o ganeuon o dan y teitl 'Dulog', wedi ei enwi ar ôl y creadur bach sydd i'w weld yn troedio'r tiroedd ym Mhatagonia.

Ac yn sicr, mae'r thema Patagonia yn rhedeg yn gryf drwy'r albym - gyda chyfeiriadau uniongyrchol at hanes ddiddorol y Wladfa a'i phobl drwy'r caneuon ['Malacara', 'Ana', 'Dôl y Plu', a 'Pentre sydyn' i enwi ond rhai].

Roedd yr albym fer hon yn cyflawni blwyddyn arbennig o ddathlu 150 mlynedd ers sefydlu y Wladfa Gymreig.

Ceir ymddangosiad arbennig iawn gan ddau frawd arall ar yr albym, sef Alejandro a Leonardo Jones, o Drevelin yn yr Andes. Bu Alejandro a Leonardo yn rhan o 'Her Cylchdaith Cymru' gyda Rhys Meirion a nifer o rai eraill dros yr haf, a rhwng y teithio, buon nhw yn y stiwdio gyda Brigyn – gyda'r ddau set o frodyr yn cyd-ganu yn y Gymraeg, a'r Sbaeneg! ['Fan hyn (Aquí)']

Wedi ei blethu drwy'r albym, mae sŵn y Bandoneon sy'n cael ei chwarae'n gelfydd gan Nicolas Avila o Comodoro Rivadavia, a ddaeth draw i Gymru yn unswydd yn ystod mis Gorffennaf eleni i deithio ledled Cymru fel rhan o'r grŵp Brigyn.

Yn ogystal, mae'r ddeuawd ['Ffenest'] gyda Casi Wyn – sydd wedi dod yn enw cyfarwydd iawn yn y byd pop, gyda'i chaneuon yn aml i'w clywed ar BBC Radio Cymru a BBC Radio 1 – yn ymddangos ar yr albym.

Ac mae'r cydweithio yn parhau, gyda chân gan y cyfansoddwr chwedlonol Emyr Huws Jones ['Rhywle mae 'na afon'], ac ymddangosiadau gan Osian Huw Williams (Candelas/Siddi), Llŷr Pari (Palenco/Y Niwl), Mei Gwynedd (Big Leaves/Sibrydion) a Rob Reed (Magenta/Kompendium) ymysg y traciau.

Ac i goroni'r cyfan – ceir darn o waith celf arbennig gan Ani Saunders ar glawr yr albym.

Mae'r CD ar gael i'w brynu o siop ar-lein brigyn.
 
» cliciwch yma i lawrlwytho 'dulog' o iTunes
» cliciwch yma i lawrlwytho 'dulog' o bandcamp
» cliciwch yma i brynu CD 'dulog' o'r siop
 
                   
 
  [brigyn.com ~ cynlluniwyd gan: eurigroberts.com | rarebit © 2014]