
|
8.
Ar Gyfer Heddiw'r Bore
9. Rhyfeddod Ar Foreddydd (Gareth Bonello &
Brigyn)
18. Teg Wawriodd (Brigyn & Gareth Bonello)
|
Yn ystod mis Ionawr 2009, bu Brigyn yn ran o
wasanaeth Plygain yn Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa
gyda chantorion gwerin cyfoes eraill, yn ogystal
â phlygeinwyr traddodiadol o Sir Drefaldwyn.
Trefnwyd y prosiect gan y cerddor Rhys Mwyn
- un o ffigyrau mwyaf dylanwadol a dadleuol
y diwylliant canu Cymreig - sy'n wreiddiol o
Lanfair Caereinion. "Mae gan y prosiect
yma rhywbeth i'w wneud gyda fi'n edrych ar fy
ngwreiddiau, heb os!" meddai Rhys. "Mi
oeddwn i'n gwrando ar y Sex Pistols, pan oedd
fy nghyfoedion i'n mynd i ganu plygain".
Cydweithiodd Brigyn efo Gareth Bonello (The
Gentle Good) ar gyfer y prosiect, a rhyddhawyd
y recordiadau o'r gwasanaeth ar yr albym yma
yn ystod 2010.
|