Brigyn Bach ~ Tachwedd 2006

01. Buta efo'r maffia
02. Jericho
03. Ty Bach Twt

Rhyddhawyd casgliad byr o ganeuon prin Brigyn ar feinyl 7" nifer cyfyngedig ac ar iTunes yn unig yn ystod diwedd 2006. Gyda phrif drac y sengl, 'Buta efo'r Maffia', mentrodd Brigyn i fyd electro-pop budur, tra roedd y caneuon eraill, 'Jericho', a'r fersiwn gwreiddiol o 'Ty Bach Twt' yn dangos ochr mwy lleddf/acwstic Brigyn. Daeth llyfryn o waith celfyddyd gain gyda'r feinyl, a oedd yn arddangos gwaith nifer o artistiaid/dylunwyr cyfoes o Gymru.
» cliciwch yma i lawrlwytho 'brigyn bach'
» cliciwch yma i brynu feinyl 'brigyn bach' o'r siop