|
01. Addewid gwag
02. Diwrnod marchnad
03. Popeth yn ei le
04. Y Sgwâr
05. Imãgõ
06. Serth
07. Darn o'r un brethyn
08. Vortex
09. Byd brau
10. xetroV
11. Hwyl fawr, ffarwel
12. Bysedd drwy dy wallt |
|
Llai na blwyddyn yn unig ar ôl rhyddhau'r CD gyntaf, ymddangosodd ail albym Brigyn o dan y teitl 'Brigyn 2'. Sefydlodd yr albym yma sŵn unigryw Brigyn ymhellach, fel cyfuniad o elfennau electronica, gwerin, a defnydd o samplau cerddorfaol.
Lawnsiwyd y CD yma yn ffurfiol tu mewn i goeden ger Llanymddyfri, a dilynodd teithiau llwyddiannus i San Fransisco ym mis Tachwedd 2005, ac i Iwerddon yn Ebrill 2006.
Ymysg y caneuon sy'n ymddangos ar yr albym yma, mae 'Hwyl fawr, ffarwel' - sy'n ddeuawd gyda Fflur Dafydd, a 'Y Sgwâr' - sef teyrnged i'r bosciwr o Ferthyr, Johnny Owen. |
|