brigyn.com
 
             
       
Brigyn4 ~ Tachwedd 24, 2014
01. Ara deg
02. Fflam
03. Deffro
04. Gwyn dy fyd
05. Tlws
06. Pentre sydyn
07. Eryri
08. Ffilm
09. Weithiau
10. Machlud
11. Gwallt y forwyn
+ [2 drac ychwanegol - CD yn unig: 'Cicio teiars' + 'Y Sŵn']
  Degawd yn union ers cyhoeddi eu halbym cyntaf, a chwe blynedd a hanner ers eu albym stiwdio ddiwethaf - dyma'r albym hir-ddisgwyliedig, ‘Brigyn4’.

Ymysg yr 11 trac ar yr albym, mae ‘Fflam’ - a ddewiswyd gan S4C fel y sain ar gyfer hysbysebion digwyddiadau’r haf 2014; ‘Gwyn dy fyd’ - a gomisiynwyd yn wreiddiol ar gyfer rhaglen S4C ‘O’r Galon’, a ‘Ffilm’ - a gyfansoddwyd gyda Meirion MacIntyre Huws a Rhodri Davies fel rhan o sesiwn ‘Unnos’ ar gyfer C2, BBC Radio Cymru.

Mae'r albym yn cynnwys cyfraniadau gan yr aml-dalentog Georgia Ruth Williams (ar ‘Gwallt y forwyn’), Mei Gwynedd (Big Leaves/Sibrydion), Osian Williams (Candelas/Siddi), Angharad Jenkins (Calan/DnA), Jon Bradford-Jones (Catrin Finch/Fflur Dafydd a’r Barf), a Rob Reed (Magenta/Kompendium). Cyd-gyfansoddwyd ‘Weithiau’ gyda’r prifardd Mererid Hopwood.

Yn ychwanegol, mae 2 drac cudd (‘Cicio teiars’ ac ‘Y Sŵn’) ar gael ar y fformat CD yn unig.
 
» cliciwch yma i lawrlwytho 'brigyn4' o iTunes
» cliciwch yma i lawrlwytho 'brigyn4' o bandcamp
» cliciwch yma i brynu CD 'brigyn4' o'r siop
 
                   
 
  [brigyn.com ~ cynlluniwyd gan: eurigroberts.com | rarebit © 2014]